Brawdoliaeth y Cyn-Raffaëliaid

Oddi ar Wicipedia
Brawdoliaeth y Cyn-Raffaëliaid
Mariana gan John Everett Millais
Enghraifft o'r canlynolsymudiad celf, grwp o fewn celf, arddull Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1848 Edit this on Wikidata
SylfaenyddWilliam Holman Hunt, John Everett Millais, Dante Gabriel Rossetti Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Grŵp o beintwyr, beirdd a beirniaid celf o Loegr yn y 19g oedd Brawdoliaeth y Cyn-Raffaëliaid (Saesneg: Pre-Raphaelite Brotherhood), neu, yn syml, Cyn-Raphaëliaid.[1]

Sefydlwyd y grŵp ym 1848 gan William Holman Hunt, John Everett Millais, Dante Gabriel Rossetti, William Michael Rossetti, James Collinson, Frederic George Stephens a Thomas Woolner. Seiliwyd y "Frawdoliaeth" gan ei saith aelod ar y mudiad Nasareaidd, sef grŵp o peintwyr o ddechrau'r 19g yn Awstria a'r Almaen a oedd wedi gobeithio adfer gwerthoedd ysbrydol i gelf, ac a edrychodd am ysbrydoliaeth mewn artistiaid yr Oesoedd Canol diweddarach a'r Dadeni cynnar.

Dim ond cysylltiad rhydd oedd y Frawdoliaeth erioed, a rhannwyd ei hegwyddorion gan artistiaid eraill yr oes, gan gynnwys Ford Madox Brown, Arthur Hughes a Marie Spartali Stillman. Ymhlith dilynwyr diweddarach yr egwyddorion hynny oedd Edward Burne-Jones, William Morris a John William Waterhouse.

Ymdrechodd y grŵp i ddychwelyd at fanylion toreithiog, lliwiau dwys a chyfansoddiadau cymhleth celf Eidalaidd y 15g. Gwrthodasant yr hyn yr oeddent yn ei ystyried fel y dull mecanistig a fabwysiadwyd gan artistiaid a ddilynodd Raffael a Michelangelo. Roeddent yn credu bod ystumiau Clasurol a chyfansoddiadau cain Raffael yn benodol wedi bod yn ddylanwad llygredig ar y ffordd academaidd y cafodd peintwyr eu hyfforddi, a dyna pam y mabwysiadwyd yr enw "Cyn-Raffaëlaid". Roedd ganddynt gysylltiad agos â syniadau’r beirniad celf John Ruskin.

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur yr Academi, s.v. "Pre-Raphaelite"