Mary, y Dywysoges Reiol
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Y Dywysoges Mary, Y Dywysoges Frenhinol)
| Mary, y Dywysoges Reiol | |
|---|---|
| Ganwyd | 25 Ebrill 1897 York Cottage |
| Bedyddiwyd | 7 Mehefin 1897 |
| Bu farw | 28 Mawrth 1965 o trawiad ar y galon Harewood House |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Galwedigaeth | nyrs, pendefig |
| Swydd | Tywysoges Reiol |
| Tad | George V, brenin y Deyrnas Unedig |
| Mam | Mair o Teck |
| Priod | Henry Lascelles |
| Plant | George Lascelles, Gerald David Lascelles |
| Llinach | Tŷ Windsor, Tŷ Sachsen-Coburg a Gotha |
| Gwobr/au | Boneddiges yr Uwch Groes o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Bonesig Uwch Groes Urdd y Fictoria Frenhinol, Urdd Coron India, Bonesig Uwch Groes Urdd Sant Ioan, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Laval, Arwisgiad Groes Goch Frenhinol, honorary doctor of the University of Lille |
| llofnod | |
Roedd Victoria Alexandra Alice Mary (25 Ebrill 1897 – 28 Mawrth 1965) yn Dywysoges Frenhinol y Deyrnas Unedig ac Iarlles Harewood.
Cafodd ei geni yn York Cottage, Sandringham, yn ferch i'r Tywysog George (y brenin George V yn hwyrach) a'i wraig Mair o Teck. Cafodd ei haddysg gartref gan athrawes, gyda'i brodyr. Daeth yn nyrs yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Priododd Henry Lascelles, mab Iarll Harewood, ar 28 Chwefror 1922, yn Abaty Westminster. Roedd ei ffrind, Elizabeth Bowes-Lyon, yn un o'r morynion priodas.