Y Bardd Anfarwol (albwm)

Oddi ar Wicipedia
Y Bardd Anfarwol
Albwm stiwdio gan The Gentle Good
Rhyddhawyd Hydref 2013
Label Bubblewrap

Trydydd albwm yr artist Cymreig The Gentle Good yw Y Bardd Anfarwol. Rhyddhawyd yr albwm yn Hydref 2013 ar y label Bubblewrap.

Mae Y Bardd Anfarwol yn albwm cysyniadol gan y canwr gyfansoddwr talentog o Gaerdydd, Gareth Bonello, sy’n adrodd hanes y bardd enwog o Tsieina, Li Bai. Nid yn unig tynnu dylanwad o Tsieina mae Gareth, mae wedi recordio dau o’r traciau yn Chengdu ac mae aelodau o Ensemble Tsieineaidd y DU yn chwarae ar y casgliad.

Dewiswyd Y Bardd Anfarwol yn un o ddeg albwm gorau 2013 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]

Canmoliaeth[golygu | golygu cod]

Mae’r record fel petai’n gam uwchben unrhyw record Gymraeg arall, a’r Bardd Anfarwol fydd y llinyn mesur i mi o hyn ymlaen

—Ciron Gruffydd, Y Selar

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]