X-Press Pearl

Oddi ar Wicipedia
X-Press Pearl
Enghraifft o'r canlynolllong gynwysyddion Edit this on Wikidata
GweithredwrX-Press Feeders Group Edit this on Wikidata
GwneuthurwrZhoushan Changhong International Shipyard Edit this on Wikidata
Hyd186 metr Edit this on Wikidata
Tunelledd gros30,911 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Roedd X-Press Pearl yn llong gynhwysydd dosbarth Super Eco 2700 a gofrestrwyd yn Singapore. Fe'i lansiwyd yn Chwefror 2021 ac roedd tua 186 metr (610 tr) o hyd.[1] Fe'i gweithredwyd gan X-Press Feeders pan longddrylliwyd hi gan achosi trychineb ecolegol.

Ar 20 Mai 2021, aeth yr X-Press Pearl ar dân oddi ar arfordir Colombo, Sri Lanca.[2] Erbyn 27 Mai roedd wedi llosgi'n ulw a datganwyd ei bod yn golled lwyr.[3] Ar ôl llosgi am 12 diwrnod, suddodd y llong ar 2 Mehefin wrth iddi gael ei thynnu i ddyfroedd dyfnach.[4][5] Ystyriwyd mai'r digwyddiad oedd y trychineb ecolegol morol gwaethaf yn hanes Sri Lanka[6][7] oherwydd y cemegolion a lifodd ohoni ac i'r môr.[8]

Yn ôl y perchnogion X-Press Feeders,[9] dechreuodd y broses o'i hachub ac i gael gwared ar y sgerbwd llong yn Nhachwedd 2021. Fodd bynnag, amharwyd ar y gwaith achub yn ystod monsŵn y de-orllewin rhwng diwedd Ebrill a Thachwedd 2022.

Trychineb amgylcheddol y llong X-Press Pearl.

Tân[golygu | golygu cod]

Roedd X-Press Pearl yn cario 1,486 o gynwysyddion, rhai'n cynnwys 25 tunnell o asid nitrig (y gellir ei ddefnyddio wrth gynhyrchu gwrtaith a ffrwydron), cemegau eraill, colur a phelenni polyethylen dwysedd isel (LDPE). Gadawodd y porthladd Hazira ar 15 Mai 2021, gan gyrraedd Colombo ar 19 Mai.[10][11] Erbyn 11 Mai roedd y criw wedi darganfod bod cynhwysydd a lwythwyd yn Jebel Ali yn gollwng asid nitrig, ac wedi gofyn i borthladdoedd Hamad a Hazira ganiatáu iddo gael ei ddadlwytho, ond ni roddwyd caniatâd.[12] Yn ôl X-Press Feeders, gwrthodwyd y ceisiadau gan “nad oedd unrhyw gyfleusterau arbenigol nac arbenigedd ar gael ar unwaith i ddelio â’r asid a oedd yn gollwng”, ac aeth y llong ymlaen ar ei thaith arfaethedig i Colombo.[13]

Cyrhaeddodd y llong Colombo fin nos, ar 19 Mai a chafodd ei hangori yn yr harbwr allanol yn aros am angorfa. Ni ddatganodd y llong argyfwng ar gyfer y gollyngiad asid cargo. Ar 20 Mai gofynnodd asiantau'r llong am drwsio'r cynhwysydd. Dywedodd yr Harbwrfeistr Nirmal de Silva fod gan hwbcwmni-morol yng Ngholombo yr arbenigedd i helpu. Yna cyhoeddodd y llong ei bod ar dân, yr oedd y criw wedi'i ddiffodd gan ddefnyddio ei system ar fwrdd.[14]

Adroddwyd bod y llong wedi mynd ar dân ar 20 Mai, 9.5 milltir morol 17.6 km; 10.9 milltir) i'r gogledd-orllewin o Borthladd Colombo.[15] Roedd Llynges Sri Lanca, ynghyd ag Awdurdod Porthladdoedd Sri Lanca, a aeth ar fwrdd y llong er mwyn darganfod achos y tân, yn amau y gallai’r tân fod wedi cychwyn o ganlyniad i adwaith cemegau a oedd yn cael eu cludo ar y llong.[16] Yn y cyfnod yma roedd gan y llong griw o 25 aelod ar fwrdd y llong.[17]

Ar 25 Mai, bu ffrwydrad mawr y tu mewn i'r llong a chludwyd pob un o'r 25 aelod o'r criw o'r llong [18][19] Aethpwyd a dau aelod o'r criw a gafodd anafiadau yn ystod y ffrwydrad i Ysbyty Cenedlaethol Colombo yn Sri Lanca.[20][21]

Parhaodd y tân yn ystod 25 Mai, ac erbyn diwedd y prynhawn roedd cynwysyddion i'w gweld yn arnofio ar wyneb y môr.[22] Anfonodd India longau ymladd tân a llongau atal a rheoli llygredd, tynfad ac awyren morwrol Dornier i helpu gyda mesurau cyfyngu, a gofynnwyd i bysgotwyr gadw'n bell o'r llong.[23][24]

Dywedodd Cadeirydd MEPA Dharshani Lahandapura ar 26 Mai fod 378 tunnell o olew ar fwrdd y llong a gallai tua hanner hynny ollwng i’r môr ar ôl i’r tân ddiffodd. Ataliwyd gosod bwmau cyfyngu olew o amgylch y llong gan y tywydd, ond roedd awdurdodau'n barod i lanhau unrhyw olew a gyrhaeddodd y lan.[25] Erbyn y bore, roedd malurion llosg a rhywfaint o gargo wedi disgyn i'w gweld ar arfordir Negombo Sri Lanka.[26] Ar 29 Mai, roedd X-Press Pearl yn dal i fudlosgi a mygu, er bod y fflamau wedi'u diffodd.[27]

Difrod amgylcheddol[golygu | golygu cod]

Roedd llygredd pelenni resin plastig o gargo a gollwyd i'w canfod ar draethau Sri Lanca o 27 Mai. Daeth pelenni LDPE hefyd ar lannau cyfagos.[28] Yn ôl MEPA, roedd tri chynhwysydd o belenni plastig ar fwrdd y llong, pob un yn pwyso 26,000 kg.[29][30]

Disgrifiodd Laurel Wamsley o NPR y digwyddiad fel trychineb amgylcheddol ym Mehefin 2021.[31]

Gwaharddodd awdurdodau Sri Lanka bysgota arfordirol o Kalutara i Negombo, oherwydd ofnau halogiad.[32] Roedd tua 5,600 o gychod undydd yn methu mentro allan ac thalodd y llywodraeth iawndal i'w digolledu.[33] Anogwyd pobl hefyd gan MEPA i beidio â chyffwrdd ag unrhyw falurion o'r llong gynhwysydd gan eu bod wedi'i halogi â sylweddau gwenwynig.[34] [35]

O'r 1,486 o gynwysyddion, roedd 81 o'r rheini'n cael eu hystyried yn gynwysyddion peryglus niweidiol gwenwynig gan gynnwys pum tunnell o asid nitrig. [36][37]

Ym Mehefin 2021, adroddwyd bod y llong gynhwysydd wedi suddo, ac y byddai hyn yn sbarduno effeithiau andwyol ar rywogaethau morol.[38] Ar 2 Mehefin, ceisiwyd tynnu'r tynnu X-Press Pearl i ffwrdd o'r arfordir pan darodd y starn y creigiau, a rhoddwyd gorau i'r ymdrech. Dywedodd Capten Llynges Sri Lanca, Indika de Silva, nad oedd yn glir a oedd unrhyw olew heb ei losgi ar ôl yn y llong.[39]

Ymddiheurodd Prif Weithredwr X-Press Feeders Shmuel Yoskovitz i bobl Sri Lanca am y digwyddiad. “Hoffwn fynegi fy edifeirwch ac fy ymddiheuriadau mwyaf dwys i bobl Sri Lanca am y niwed oherwydd y digwyddiad hwn i fywoliaeth ac amgylchedd Sri Lanca,” mewn cyfweliad â Channel News Asia yn Singapore.[40] Parhaodd awdurdodau Sri Lanca i gasglu malurion a phelenni plastig. Roedd tua 34 o gynwysyddion wedi'u llenwi â malurion o X-Press Pearl.[41] Roedd yr awdurdodau wedi casglu 1,075 tunnell o falurion, gan gynnwys tywod, a oedd yn cael eu storio mewn cynwysyddion erbyn 8 Mehefin.[42]

Ar 15 Mehefin 2021, adroddwyd bod tua 40 o grwbanod marw wedi eu golchi ar y lan.[43][44] Hefyd, roedd llawer o rywogaethau o bysgod, morfilod, ac o leiaf chwe dolffin hefyd, gyda marciau llosgi drostynt wedi cyrraedd y glannau. Credir fod llawer o rywogaethau dyfrol hefyd yn cael eu heffeithio'n ddifrifol gan wasgariad y pelenni plastig.[45][46][47]

Effaith economaidd[golygu | golygu cod]

Gorchmynnwyd pysgotwyr lleol yn Sri Lanca i aros ar y lan oherwydd y llygredd, gan effeithio ar mân economïau lleol. Dywedodd Denzil Fernando, pennaeth undeb pysgota rhanbarthol, y bydd y gwaharddiad pysgota yn effeithio ar 4,300 o deuluoedd.[8] Amcangyfrifodd Rob Hawes, pennaeth morol yr aseswr colled Crawford & Co. y gallai colled cargo'r X-Press Pearl amrywio rhwng $30 miliwn a $50 miliwn yn ychwanegol at golli'r llong ei hun.[48]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "X Press Pearl". www.marinetraffic.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mehefin 2021. Cyrchwyd 22 Mai 2021.
  2. "Sri Lanka faces environmental disaster as cargo ship burns for days – video". The Guardian (yn Saesneg). 31 Mai 2021. ISSN 0261-3077. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mehefin 2021. Cyrchwyd 3 Mehefin 2021.
  3. "Singapore flagged X-Press Pearl under watch off Sri Lanka after fire". EconomyNext (yn Saesneg). 21 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Mai 2021. Cyrchwyd 22 Mai 2021.
  4. "Disaster feared as fire-hit cargo ship sinks off Sri Lanka coast". www.aljazeera.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mehefin 2021. Cyrchwyd 2 Mehefin 2021.
  5. "Chemical cargo ship sinks in one of Sri Lanka's worst-ever marine disasters". France 24 (yn Saesneg). 2 Mehefin 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mehefin 2021. Cyrchwyd 2 Mehefin 2021.
  6. ""Worst Marine Ecological Disaster": Sri Lanka On Cargo Ship Fire". NDTV.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mai 2021. Cyrchwyd 31 Mai 2021.
  7. "Sri Lanka faces disaster as burning ship spills chemicals on beaches". the Guardian (yn Saesneg). 31 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Mai 2021. Cyrchwyd 31 Mai 2021.
  8. 8.0 8.1 "X-Press Pearl: Sri Lanka braces for environmental disaster from sunken ship" (yn Saesneg). BBC News. 3 Mehefin 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mehefin 2021. Cyrchwyd 4 Mehefin 2021.
  9. X-Press Pearl Incident Information Centre, X-Press Feeders.
  10. Pal, Alasdair (2 Mehefin 2021). "Chemical cargo ship sinks off Sri Lanka, fouling rich fishing waters". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mehefin 2021. Cyrchwyd 3 Mehefin 2021.
  11. Mohan, Sulochana Ramiah (29 Mai 2021). "X-Press Pearl operators, Captain, local agent under probe". Ceylon Today. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Mai 2021. Cyrchwyd 4 Mehefin 2021.
  12. "Sri Lanka: Chemical-filled X-Press Pearl ship threatens marine life and beaches". BBC.
  13. "X-Press Pearl entered Hazira and Hamad ports before reaching Sri Lanka: owners". EconomyNext. 27 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Mai 2021. Cyrchwyd 27 Mai 2021.
  14. "X-Press Pearl fire origin is still a mystery, Sri Lanka official says". EconomyNext. 28 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mehefin 2021. Cyrchwyd 3 Mehefin 2021.
  15. "Container fire erupts onboard X-Press Feeders vessel in Colombo". Seatrade Maritime. 21 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Mai 2021. Cyrchwyd 22 Mai 2021.
  16. "Firefighters in Sri Lanka battle container blaze on X-Press Pearl". The Loadstar. 21 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Mai 2021. Cyrchwyd 22 Mai 2021.
  17. "Navy assists dousing of fire in vessel carrying chemicals anchored off Colombo". Daily News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Mai 2021. Cyrchwyd 22 Mai 2021.
  18. "Explosion aboard MV X-PRESS PEARL; crew evacuated". Sri Lanka News – Newsfirst. 25 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mai 2021. Cyrchwyd 25 Mai 2021.
  19. "Explosion reported in 'X-Press Pearl' ship, crew members rescued". Daily News (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mai 2021. Cyrchwyd 25 Mai 2021.
  20. "X-PRESS PEARL: 02 Indian crew members admitted to Hospital". Sri Lanka News – Newsfirst (yn Saesneg). 25 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mai 2021. Cyrchwyd 25 Mai 2021.
  21. "Crew evacuated after explosion on container ship off Colombo". Al Jazeera Media Network. 25 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Mai 2021. Cyrchwyd 26 Mai 2021.
  22. Hamza, Mahadiya (25 March 2021). "Blazing X-press Pearl off Sri Lanka triggers Tier II oil spill warning". EconomNext.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mai 2021. Cyrchwyd 25 Mai 2021.
  23. "India sends ships, aircraft to help Sri Lanka control oil spill, X-press Pearl blaze". EconomyNext.com. 25 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mai 2021. Cyrchwyd 25 Mai 2021.
  24. "Sri Lanka fishermen warned off X-Pres Pearl fire zone amid oil spill fears: Minister". EconomyNext.com. 25 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mai 2021. Cyrchwyd 25 Mai 2021.
  25. "Sri Lanka prepares for oil spill as burning X-Press Pearl spews cargo and charred debris". EconomyNext.com. 26 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Mai 2021. Cyrchwyd 26 Mai 2021.
  26. "Sri Lanka's Western coast contaminated with debris from burning ship". Newsfirst.com. 26 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Mai 2021. Cyrchwyd 26 Mai 2021.
  27. "X-Press Pear sinking off Sri Lanka while being towed". EconomyNext.com. 2 Mehefin 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mehefin 2021. Cyrchwyd 2 Mehefin 2021.
  28. "Authorities scramble to clear debris from troubled MV X-Press Pearl | Daily FT". Ft.lk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mehefin 2021. Cyrchwyd 2021-06-03.
  29. "Sri Lanka battles waves of plastic waste from burning ship". Yahoo.com. AFP. 28 Mai 2021.
  30. "Sri Lanka braces for 'almost inevitable' oil spill as ship sinks". Al Jazeera. Al Jazeera. 2 Mehefin 2021.
  31. "Sri Lanka Faces An Environmental Disaster As A Ship Full Of Chemicals Starts Sinking". NPR.org (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mehefin 2021. Cyrchwyd 2021-06-03.
  32. "Burning cargo vessel could result in slight acid rains in Sri Lanka: Authorities". The Hindu (yn Saesneg). 29 Mai 2021. ISSN 0971-751X. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Mai 2021. Cyrchwyd 29 Mai 2021.
  33. "Si Lanka halts coastal fishing over X-Press Pearl pollution hitting 5,600 boats". EconomyNext. 28 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mehefin 2021. Cyrchwyd 29 Mai 2021.
  34. "Do not touch 'toxic' debris from 'X-Press Pearl' – MEPA". www.adaderana.lk (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mehefin 2021. Cyrchwyd 31 Mai 2021.
  35. "Sri Lanka: Central Environmental Authority issues guidelines for removal of debris from MV X-Press Pearl". www.colombopage.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Mai 2021. Cyrchwyd 31 Mai 2021.
  36. "Sri Lanka Faces An Environmental Disaster As A Ship Full Of Chemicals Starts Sinking". NPR.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mehefin 2021. Cyrchwyd 3 Mehefin 2021.
  37. "X-Press Pearl salvors mull boarding as Sri Lanka eyes pollution claim". EconomyNext. 31 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mehefin 2021. Cyrchwyd 3 Mehefin 2021.
  38. "Fears of environmental disaster as oil-laden ship sinks off Sri Lanka". BBC News (yn Saesneg). 2 Mehefin 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mehefin 2021. Cyrchwyd 2 Mehefin 2021.
  39. "X-Press Pearl stern hits bottom aborting tow, Sri Lanka renews oil spill watch". EconomyNext.com. 2 Mehefin 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mehefin 2021. Cyrchwyd 2 Mehefin 2021.
  40. "CEO of vessel operator apologises for impact of sunken container ship off Sri Lanka coast". channelnewsasia.com. 3 Mehefin 2021. Cyrchwyd 4 Mehefin 2021.
  41. "Sri Lanka in biggest ever nurdle hunt after X-Press Pearl spill, volunteer hunters arrested". EconomyNext.com. 4 Mehefin 2021. Cyrchwyd 4 Mehefin 2021.
  42. "Sri Lanka scrapes 1,075 tonnes of X-Press Pearl waste off shores". EconomynNext. 9 Mehefin 2021. Cyrchwyd 10 Mehefin 2021.
  43. "X-Press Pearl: Sri Lanka forms expert groups for environmental, economic costs". EconomyNext.com. 8 Mehefin 2021. Cyrchwyd 10 Mehefin 2021.
  44. "Dead sea turtles continue to wash up on SL shores; Authorities plan to seek maximum compensation". Newsfirst.lk. 7 Mehefin 2021. Cyrchwyd 10 Mehefin 2021.
  45. "Dead Sea Turtles Continue To Wash Up On Sri Lankan Shores". newsfirst. Cyrchwyd 2021-06-14.
  46. "Dead whales, turtles & dolphins wash up on SL shores; Activists warn numbers could rise". newsfirst. Cyrchwyd 2021-06-14.
  47. "Nurdles: the worst toxic waste you've probably never heard of". the Guardian (yn Saesneg). 2021-11-29. Cyrchwyd 2021-11-30.
  48. "X-Press Pearl loss will add to insurers' container ship headaches" (yn Saesneg). S&P Global. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Mai 2021. Cyrchwyd 4 Mehefin 2021.