Wyn Lewis Williams

Oddi ar Wicipedia
Wyn Lewis Williams
Ganwyd31 Mawrth 1951 Edit this on Wikidata
Glynrhedynog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbarnwr, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Mae Syr Wyn Lewis Williams, CCDC (ganwyd 31 Mawrth 1951) yn farnwr Cymreig a wasanaethodd fel Llywydd y Tribiwnlysoedd Cymreig hyd 2023. Roedd wedi bod yn farnwr yr Uchel Lys o 2007 hyd ei ymddeoliad ar 10 Chwefror 2017.[1]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganed Wyn Lewis Williams yn Glynrhedynog, y Rhondda yn blentyn i Ronald a Nellie Williams. Addysgwyd ef yn ysgol gramadeg sirol y Rhondda, Coleg Corpus Christi, Rhydychen, ac Ysgol y Gyfraith Ysbytai'r Brawdlys yn Llundain.

Gyrfa gyfreithiol[golygu | golygu cod]

Galwyd Williams i'r bar yn y Deml Fewnol ym 1974 a'i ddyrchafu'n feinciwr yn 2007 . Bu’n ymarfer y gyfraith yng Nghaerdydd o 1974 i 1988 ac yn Llundain o 1988 i 2004. Daeth yn Gwnsler y Frenhines ym 1992, a gwasanaethodd fel cofnodwr Llys y Goron hyd iddo gael ei benodi’n farnwr Siawnsri arbenigol i Gymru yn 2004. Ar 11 Ionawr 2007, penodwyd Williams yn farnwr Uchel Lys, gan gael ei urddo'n farchog yn ôl y drefn arferol, a'i benodi i Adran Mainc y Frenhines. Gwasanaethodd fel barnwr llywyddol ar gyfer Cylchdaith Cymru ac fel Dirprwy Gadeirydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru.[2]

Fe'i penodwyd yn llywydd tribiwnlysoedd Cymru ym mis Rhagfyr 2017. Bu'n aelod o’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru rhwng 2017 a 2019.[3]

Ym mis Chwefror 2022 dechreuodd cadeirio'r Ymchwiliad Statudol i sgandal Swyddfa'r Post Prydeinig, y rhagwelir y bydd yn parhau hyd at haf 2024.[4]

Gweithgareddau eraill[golygu | golygu cod]

Mae'n weithgar mewn sawl sefydliad, yn llywydd Côr Meibion Pendyrus,[5] ac mae ganddo gysylltiad agos â Chlwb Rygbi Pendyrus, y clwb rygbi undeb y bu'n chwarae iddo pan oedd yn ifanc. Ymhelaethwyd ar ei gysylltiad â rygbi yn 2012 pan gafodd ei benodi’n gadeirydd annibynnol di-dâl y Bwrdd Gêm Ranbarthol Broffesiynol, sefydliad a sefydlwyd gan Undeb Rygbi Cymru i ailstrwythuro’r gamp yng Nghymru.[6]

Mae'n Gymrawd etholedig o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Y Cymro sy'n cadeirio'r ymchwiliad cyhoeddus i fethiannau system Horizon Swyddfa'r Post". newyddion.s4c.cymru. 2024-01-11. Cyrchwyd 2024-01-12.
  2. "Sir Wyn Williams - Administrative Justice Council" (yn Saesneg). 2018-10-01. Cyrchwyd 2024-01-12.[dolen marw]
  3. "Syr Wyn Williams: Comisiynydd | LLYW.CYMRU". www.llyw.cymru. Cyrchwyd 2024-01-12.
  4. "The Chair of the Post Office Horizon IT Inquiry". Post Office Horizon IT Inquiry (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-12.
  5. WalesOnline (2008-02-28). "President sets bench mark". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-12.
  6. "Sir Wyn Williams to chair new board - Welsh Rugby Union". Welsh Rugby Union | Wales & Regions (yn Saesneg). 2012-12-05. Cyrchwyd 2024-01-12.
  7. Wales, The Learned Society of. "Wyn Williams". The Learned Society of Wales. Cyrchwyd 2024-01-12.