Winifred Wagner

Oddi ar Wicipedia
Winifred Wagner
Ganwyd23 Mehefin 1897 Edit this on Wikidata
Hastings Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mawrth 1980 Edit this on Wikidata
Überlingen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethcyfansoddwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol Edit this on Wikidata
PriodSiegfried Wagner Edit this on Wikidata
PlantWolfgang Wagner, Wieland Wagner, Friedelind Wagner, Verena Wagner Lafferentz Edit this on Wikidata

Awdures o'r Almaen, a anwyd yn Lloegr oedd Winifred Wagner (23 Mehefin 1897 - 5 Mawrth 1980) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel hyrwyddwr cerddoriaeth ac awdur llythyrau at Adolf Hitler, a oedd yn gyfaill iddi; roedd hefyd yn ei gefnogi.

Ganed Winifred Marjorie Williams yn Hastings, Dwyrain Sussex a bu farw yn Überlingen ar lan Llyn Bodensee yn yr Almaen.[1][2][3][4][5]

Roedd yn wraig i Siegfried Wagner, mab y cerddor Richard Wagner (1813 – 1883). Yn 1930, wedi marwolaeth ei gŵr, cymerodd drosodd drefniadau Gŵyl Bayreuth, hyd at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Bu'n gohebu am ugain mlynedd gydag Adolf Hitler, a oedd yn ffan mawr o gerddoriaeth ei thad-yng-nghyfraith.

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn Saesnes, yn Hastings, i'r newyddiadurwr Emily Florence Karop a John Williams, ond bu'r ddau farw cyn bo Winifried yn ddwy oed. Fe'i maged i ddechrau mewn cartrefi plant amddifad, ond pan oedd yn 8 oed, fe'i mabwysiadwyd gan berthynas pell i'w mam, Henrietta Karop a'i gŵr Karl Klindworth, cerddor, a chyfaill Richard Wagner.[6]

Winifred Wagner a'i theulu 1922

Sefydlwyd Gŵyl Bayreuth gan y cerddor Richard Vagner ei hun, yn bennaf er mwyn llwyfanu Der Ring des Nibelungen a Parsifal. Ystyriwyd yr ŵyl yn fusnes teuluol, gyda rheolaeth yr adeilad a'r cwmni i'w drosglwyddo o Richard Wagner i'w fab Siegfried Wagner, ond ychydig o ddiddordeb mewn priodas a ddangosodd Siegfried, a oedd yn ddeurywiol. Trefnwyd y byddai Winifred Klindworth, fel y'i gelwid ar y pryd, yn 17 oed, yn cwrdd â Siegfried Wagner, 45 oed, yng Ngŵyl Bayreuth ym 1914. Flwyddyn yn ddiweddarach roedden nhw'n briod. Y gobaith oedd y byddai'r briodas yn dod â chyfarfodydd cyfunrywiol Siegfried a'r sgandalau cysylltiedig i ben, ac yn darparu etifedd i gynnal busnes y teulu.

Adolf Hitler[golygu | golygu cod]

Yn 1923, cyfarfu Winifred ag Adolf Hitler, a oedd yn edmygydd mawr o gerddoriaeth Wagner. Pan garcharwyd Hitler am ei ran yng Ngŵyl Gwrw Hitlerputsch (sef coup d'état gan y Blaid Natsiaidd, yr NSDAP, a fethodd), anfonodd Winifred barseli bwyd a deunydd ysgrifennu iddo. Mae'n ddigon posib mai ar y papur hwn yr ysgrifennodd Hitler ei lyfr Mein Kampf (Fy Mrwydr). Ar ddiwedd y 1930au, gwasanaethodd fel cyfieithydd personol i Hitler yn ystod trafodaethau â Phrydain.

Er i Winifred aros yn ffyddlon i Hitler, gwadodd ei bod wedi cefnogi'r blaid Natsïaidd. Tyfodd ei pherthynas â Hitler mor agos nes bod sibrydion o briodas ar fin digwydd, yn 1933 (er bod sibrydion tebyg am ei chariad at y nofelydd Saesneg Hugh Walpole hefyd).[7]

Tu fewn i adeilad Gŵyl Bayreuth; 2010au

Haus Wahnfried, cartref Wagner yn Bayreuth, oedd hoff encilfa Hitler. Rhoddodd gymorth a chymorth ariannol (eithriad o'r dreth) i'r ŵyl, ac roedd yn gyfeillgar iawn â phlant Winifred.

Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol.

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Gynghrair Milwrol dros Ddiwylliant Almaeneg am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb144707254. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb144707254. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb144707254. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Winifred Wagner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Winifred Marjorie Wagner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Winifred Wagner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Winifred Wagner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Winifred Wagner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Winifred Wagner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb144707254. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Winifred Wagner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Winifred Marjorie Wagner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Winifred Wagner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Winifred Wagner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Winifred Wagner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Winifred Wagner". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  5. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 10 Rhagfyr 2014
  6. How Adolf Hitler fell in love with Sussex orphan; The Argus 4 Chwefror 2004; adalwyd 10 Rhagfyr 2018
  7. Hamann, Brigitte (2005) [2002]. Winifred Wagner. Llundain: Granta. ISBN 1862076715. tt. 49 and 99