Bodensee

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Bodensee
Bodensee satellit.jpg
Cyfesurynnau 47°39′Gog 9°19′Dwy
Tarddiadau Cynradd Rhein
All-lifoedd Cynradd Rhein
Dalgylch 11500 km²
Gwledydd Basn Baner Yr Almaen Yr Almaen
Baner Awstria Awstria
Baner Y Swistir Y Swistir
Baner Liechtenstein Liechtenstein
Hyd Mwyaf 63 km
Lled Mwyaf 14 km
Arwynebedd 539 km²
Dyfnder Cyfartalog 90 m
Dyfnder Mwyaf 252 m
Cyfaint Dŵr 55 km³
Dyrchafiad Arwyneb 395 m
Ynysoedd Mainau, Reichenau, Lindau
Treflannau Nifer


Map yn dangos lleoliad y Bodensee ar y ffin rhwng yr Almaen (yn y gogledd), y Swistir (yn y de) ac Awstria (yn y dwyrain)

Llyn mawr ar Afon Rhein rhwng yr Almaen, y Swistir ac Awstria yw'r Bodensee (Almaeneg Bodensee, Ffrangeg Lac de Constance). Mae ganddo arwynebedd o 536 km2. Mae'r llyn yn cynnwys tair ynys fawr, Ynys Mainau, Ynys Reichenau ac Ynys Lindau, ynghyd â nifer o ynysoedd llai. Fe'i lluniwyd yn ystod Oes yr Iâ gan rewlif y Rhein.

Daw ei enw oddiwrth enw'r pentref Bodman ar ben gogledd-orllewinol y llyn. Ffurfiau cynharach ar ei enw yw Bodmansee a Bodansee. Mae llawer o ieithoedd Ewropeaidd yn defnyddio enwau ar y llyn (megis Ffrangeg Lac de Constance, Saesneg Lake Constance, Eidaleg Lago di Costanza, Portiwgaleg Lago de Constança, Sbaeneg Lago de Constanza) sy'n tarddu oddiwrth enw Konstanz, dinas fwyaf ar lan y llyn.