William Williams (AS Abertawe)
William Williams | |
---|---|
Ganwyd | 14 Tachwedd 1840 Treforys |
Bu farw | 21 Ebrill 1904 Llangyfelach |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd, person busnes |
Swydd | Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Plant | Thomas Jeremiah Williams |
Roedd William Williams (14 Tachwedd 1840 - 21 Ebrill 1904)[1] yn ddiwydiannwr ac yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig, yn berchennog gweithfeydd tunplat ac yn Aelod Seneddol.
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd William Williams yn Nhreforus yn fab i William Williams, llifwr coed. Priododd Margaret Jeremiah ym 1867, sef merch David Jeremiah, perchennog ffowndri Cwmdu. Cawsant bump o blant gan gynnwys Thomas Jeremiah Williams AS Abertawe 1915-1919. Bu Margaret farw ym 1893 ac ail briododd William gyda Maria Williams a bu iddynt un ferch.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ni chafodd Williams fawr o addysg ffurfiol ac aeth i weithio yn ffowndri tunplat y Fforest Uchaf yn ifanc iawn. Tra wrth ei waith cafodd ddamwain ddifrifol pan gafodd ei goes ei ddal gan ran o'r peirianwaith a bu'n rhaid ei drychu. Aeth yn ôl i weithio i swyddfa'r gwaith fel clerc gan ddangos dealltwriaeth graff o sut yr oedd y busnes yn llwyddo; ar adeg ei briodas yr oedd wedi ei ddyrchafu i swydd rheolwr gwaith tunplat Cwmbwrla[3]. Trwy briodi merch perchennog gwaith tunplat llwyddodd i ffurfio ei gwmni ei hun: y Worcester Tinplate Company a ehangodd dros gyfnod trwy brynu siars gweithfeydd eraill gan gynnwys gwaith y Fforest Uchaf lle ddechreuodd ei yrfa.[4]
Yn ogystal â'i fusnes tunplat roedd Williams hefyd yn is-gadeirydd Cwmni Bancio Morgannwg ac yn gyfarwyddwr Cwmni Nwy Abertawe.
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Chwaraeodd Williams ran blaenllaw yng ngwleidyddiaeth Ryddfrydol Abertawe gan wasanaethu fel llywydd Cymdeithas Ryddfrydol Abertawe, yn aelod o Gyngor Sir Forgannwg ac o Gyngor Bwrdeistref Abertawe a bu'n gwasanaethu fel Maer tref Abertawe o 1884-1885.
Ar ddyrchafiad Syr Henry Hussey Vivian i Dŷ'r Arglwyddi ym 1893 dewiswyd Williams yn ymgeisydd Rhyddfrydol ar gyfer yr isetholiad ar gyfer sedd wag Dosbarth Abertawe. Cafodd ei ethol yn ddiwrthwynebiad. Penderfynodd beidio ag amddiffyn y sedd pan ddaeth yr etholiad cyffredinol nesaf ym 1895.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn ei gartref, Maesygwernen, Llangyfelach yn 63 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orffwys ym mynwent cyhoeddus y Mwmbwls
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "FUNERAL OF MR WWILLIAMS - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1904-04-30. Cyrchwyd 2017-11-26.
- ↑ MR. W. WILLIAMS DEAD LLGC Papurau Cymru ar lein Cambrian 22 Ebrill 1904 [1] adalwyd 19 Tachwedd 2014
- ↑ Cofrestr Priodas Eglwys St Iago Abertawe (Gwasanaeth Archifau Cymru) Tystysgrif Priodas Rhif 482
- ↑ LOCAL OBITUARY NOTICES. - W. WILLIAMS, MAESYGWERNEN LLGC Papurau Cymru ar lein Weekly Mail 23 Ebrill 1904 [2] adalwyd 19 Tachwedd 2014
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Henry Hussey Vivian |
Aelod Seneddol dros , Dosbarth Abertawe 1893 – 1895 |
Olynydd: David Brynmor Jones |