William Roberts (meddyg)

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
William Roberts
William Roberts (physician).jpg
Ganwyd 18 Mawrth 1830 Edit this on Wikidata
Bodedern Edit this on Wikidata
Bu farw 16 Ebrill 1899 Edit this on Wikidata (69 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth meddyg Edit this on Wikidata
Gwobr/au Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Fellow of the Royal College of Physicians Edit this on Wikidata

Roedd Syr William Roberts (18 Mawrth 183016 Ebrill 1899) yn feddyg Cymraeg. Ganwyd Roberts ym Modedern ar 18 Mawrth 1830. Roedd yn fab i David a Sarah Roberts. Addysgwyd yn Mill Hill School ac ym Mhrifysgol Llundain. Graddiodd hefo BA yn 1851. M.B yn 1853 a M.D yn 1854. Treuliodd rhan o'i amser yn Ffrainc a'r Almaen wrth astudio am ei radd.

Dyddiau cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl cwblhau ei addysg ym meddyginiaeth, penodwyd yn brif lawfeddyg yn Manchester Royal Infirmary a daeth yn aelod o'r Royal College of Surgeons. Penodwyd yn Athro Meddyginiaeth yn Owens College, Manceinion o 1863 i 1883. Ei faes penodedig oedd afiechydon arennol.

Manceinion[golygu | golygu cod y dudalen]

Symudodd un o'i frodyr i Fanceinion a daeth yn llewyrchus yn y busnes dillad (drapery). Roedd nifer o aelodau o'r teulu wedi symud i'r ardal hon oherwydd y busnes. Roedd gan Manceinion Clafdy ac ysgol feddygol boblogaidd. Roedd yn lle delfrydol i feddyg ifanc newydd raddio.[1] Penderfynodd Roberts symud yno a daeth yn brif lawfeddyg yn y Royal Informary. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf ym Manceinion fe syrthiodd mewn cariad hefo Elizabeth Johnson a phriododd y ddau. Roedd hefyd yn ddarlithydd mewn anatomeg a ffisioleg yn y Royal School of Medicine ym Manceinion.[1] Ar ôl dau ddeg pedwar blynedd ym Manceinion symudwyd Roberts i Lundain lle dreuliodd ei ymddeoliad. Roedd yn rhannu ei amser rhwng Llundain a'i ystâd, Y Bryn yn Llanymawddwy.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw Syr William Roberts yn Llundain yn 1899. Claddwyd yn y fynwent yn Llanymawddwy.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Anglesey Remembers Some Of Its Eminent People gan Margaret Hughes