Wicipedia:Wicibrosiect WiciNatur/Davith Fear

Oddi ar Wicipedia

Er mwyn ymarfer, mae Davith wedi bod yn hynod o garedig yn creu esiamplau o erthyglau i chi ddilyn eu patrwm a'u copio er mwyn ymarfer sut i greu erthyglau newydd.

Ceir egin erthyglau wedi'u creu'n barod am yr adar canlynol. Copiwch y testun isod a'i ludo, os yw'n addas. Yna: rhowch linell drwy'r testun i ddangos ei fod wedi ei gopio. I wneud hyn, defnyddiwch y cod <s> ar ddechrau'r darn a </s> ar ei ddiwedd. Mae hyn yn creu: testun fel hyn.

Erthygl 1

Rhedwr brych

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Rhedwr brych (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: rhedwyr brych) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Burhinus capensis; yr enwau Saesneg arno yw spotted thick-knee, spotted dikkop neu Cape dikkop. Mae'n perthyn i deulu'r Rhedwyr (Lladin: Burhinidae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1]

Adnabyddir pedwar is-rywogaeth ar hyn o bryd, er yn y gorffennol cafoddd o leiaf dau is-rywogaeth arall eu hadnabod[2][3]. Er fod yr enw gwyddonol yn awgrymu ei fod i’w gael yn Ne Affrica, mae’n endemig ar draws rhan helaeth o Affrica i’r De o’r Sahara.

Disgrifiad[golygu cod]

Gall dyfu at 45 cm o daldra gyda choesau hir melyn gyda chymalau tibiotarsol chwyddedig. Mae ei blu mannog o frown a gwyn yn rhoi cuddliw da gan ei wneud yn anodd gweld yn y safana a glaswelltiroedd, sef ei brif gynefin. Mae ganddo ben mawr gyda llygaid melyn amlwg a phig cwta praff du. Gall bwyso rhwng 375 a 610g. Mae ei lais yn pipianu, gan godi mewn traw ac uchder, pi-pi-pi-pi peo peo peo-pi-pi pi.

Ymddygiad[golygu cod]

Erthygl 6 Mae’r rhedwr brych yn fwy actif gyda’r nos, pan fo’n hela ar y tir, gan fwyta pryfaid, mamaliaid bychain a madfallod. Yn ystod y dydd mae’n cwrcwd ar y tir, sydd gyda’i guddliw yn ei wneud yn anodd gweld. Mae i’w gael fel ar arfer ar ei ben ei hun, neu mewn parau pan fo’n bridio.

Bridio[golygu cod]

Maent yn nythu ar y ddaear rhwng Awst a Rhagfyr, gan leinio pant bychan gyda glaswellt, plu, cerigos a brigau. Fel arfer mae’r fenyw yn dodwy dau wy o liw hufennog 52mm X 38mm ar gyfartaledd.[4] Mae’r ddau riant yn helpu edrych ar ôl y cywion, gan ddod â bwyd yn ôl i’r nyth. Maent yn amddiffyn y nyth gan ymosod ar anifeiliaid sy’n fentro rhy agos. Weithiau maent yn cogio anaf i arwain ysglyfaethwyr i ffwrdd o’r nyth.

Dosbarthiad[golygu cod]

Mae’r rhedwr brych i’w cael yn y glaswelltiroedd a safana o Affrica i’r De o’r Sahara, o Senegal yn y gorllewin pell hyd at Swdan a Somalia yn y Dwyrain, ac yn arbennig yng nglaswelltiroedd Affrica Deheuol.

Statws[golygu cod]

Oherwydd amrediad eang a phoblogaeth sefydlog y rhedwr brych, dynodir i’r rhedwr brych statws o “gonsyrn lleiaf” gan IUCN (Undeb Rhyngwladol er Cadwraeth Natur).[5]



Erthygl 2

Rhedwr India Burhinus indicus

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Rhedwr India (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: Rhedwyr India) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Burhinus indicus; yr enwau Saesneg arno yw Indian stone-curlew neu Indian thick-knee. Mae'n perthyn i deulu'r Rhedwyr (Lladin: Burhinidae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[6] Roedd yn arfer cael ei ystyried fel is-rywogaeth o Redwr moelydd neu Eurasian stone-curlew. Mae’r rhywogaeth hon i’w chael yng gwastatiroedd India, Pacistan, Nepal a Sri Lanca. Mae rhai awdurdodau yn adnabod un is-rywogaeth sef, Burhinus indicus mayri.[7]

Ei enw yn Hindi yw 'karwanak', 'kharma' yn yr iaith Bengali a 'kanal mosal' yn Tamil (sy’n golygu 'ysgyfarnog y jyngl').[8]

Disgrifiad[golygu cod]

Maent yn tyfu hyd at 41 cm ac mae ganddynt lygaid mawr melyn, fel gweddill y rhedwyr. Eu lliw yw llwydfrown gyda llinellau tywyll dros eu cefnau sy’n rhoi cuddliw da iddynt ymhlith eu cynefin o bridd a cherrig. Fel gweddill y teulu mae ganddynt goesau hir â chymalau chwyddedig, achos eu henw Saesneg. Mae’r gwryw a benyw yn edrych yn debyg i’w gilydd ond mae’r rhai ifainc yn fwy gwelw. Wrth sefyll gellid gweld rhes llwyd golau ar hyd yr adain. Maent yn byw mewn grwpiau bychain. Yn ystod y dydd maent yn cysgodi rhag yr haul o dan llwyni. Eu cri yw cyfres o nodau pic-pic-pic-pic.[9]

Ymddygiad[golygu cod]

Maent yn fwy actif gyda’r nos, ond yn arbennig gyda’r wawr a machlud haul. Eu diet yw pryfaid, pryfaid genwair ac ymlusgiaid bychain, ac weithiau hadau.[10]

Bridio[golygu cod]

Y tymor bridio yw Mawrth ac Ebrill. Fel arfer ceir 2 neu 3 o wyau lliw carreg. Y nyth yw crafiad syml ar dir noeth, weithiau o dan llwyn. Y fenyw sy’n gorwedd ar y wyau fel arfer ond mae’r gwryw yn cadw’n agos i amddiffyn y nyth. Mae gan y cywion guddliw da ac yn rhewi pan font yn dychryn.[11][12]

Dosbarthiad[golygu cod]

Maent wedi’u gwasgaru ar draws yr is-gyfandir hyd at uchder o 1000m.

Statws[golygu cod]

Mae dosbarthiad eang y rhywogaeth hwn yn golygu bod ei statws o'r pryder lleiaf er fod tystiolaeth bod ei boblogaeth yn lleihau.[13]



Erthygl 3

Rhedwr mawr y moelydd (Esacus recurvirostris)

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Rhedwr mawr y moelydd (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: rhedwyr mawr y moelydd) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Esacus recurvirostris; yr enw Saesneg arno yw Great stone plover, great stone-curlew neu great thick-knee. Mae'n perthyn i deulu'r Rhedwyr (Lladin: Burhinidae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[14] Tarddiad yr enw gwyddonol yw y Groegaidd aisakos, sef rhyw aderyn y traeth. Ym mytholeg cafodd Aesakos, mab Priam ei droi’n aderyn glan y môr.[15] Ei enw yn Hindi yw bada karwanak ac yn Bengali Ganga titai sef Cornchwiglen y Ganges.[16]

Disgrifiad[golygu cod]

Mae’n tyfu’n fwy na gweddill y teulu o redwyr, sef i 49- - 55 cm. Mae’n llwyd neu lwydfelyn uwchlaw, ac yn wyn islaw. Mae ganddo big praff sy’n troi tuag i fyny ychydig (a awgrymwyd yn yr enw gwyddonol), a llygaid mawr melyn. Wrth iddo hedfan mae’r clytiau gwyn crwn ar yr adenydd yn ddiagnostig. Mae ei gri yn wahanol iawn i redwr y moelydd neu redwr India, sef un nodyn cras.[17]

Ymddygiad[golygu cod]

Fel y rhedwyr eraill, mae rhedwr mawr y moelydd yn gyfnosol neu nosol. Fei’i geir mewn parau neu grwpiau bychain o 4 neu 5. Maent yn byw mewn gwelau afon sych caregog, weithiau ar draethau môr a morydau. Gall redeg yn gyflym ac mae’n nofio weithiau. Fel arfer mae’n bwyta crancod. Mae’n defnyddio ei big arbennig i droi cerrig roeddent yn cuddio oddi tanynt.[18]

Bridio[golygu cod]

Mae’n nythu rhwng Chwefror a Mehefin. Mae ei nyth yn grafiad syml ar dywod gwely afon. Mae’r wyau gyda cuddliw arbennig o dda o liw melynllwyd gyda smotiau brown. Mae’r gwryw a benyw yn gorwedd ar y wyau ac edrych ar ôl y cywion.[19]

Dosbarthiad[golygu cod]

Fe-i geir ar draws is-gyfandir India ac hefyd yn Sri Lanca a Myanmar.[20]

Statws[golygu cod]

Mae ei boblogaeth yn lleihau ac felly fe’i ddynodir fel bron dan fygythiad.[21] Mae’n wynebu newidiadau i’w gynefin oherwydd adeiladu argaeau a phwysau dynol ar ecosystemau afonol.


Erthygl 4

Rhedwr rhesog Burhinus bistriatus

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Rhedwr rhesog (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: rhedwyr rhesog) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Burhinus bistratus; yr enw Saesneg arno yw Double-striped stone-curlew neu Double-striped thick-knee fel mae’r enw gwyddonol yn awgrymu. Mae'n perthyn i deulu'r Rhedwyr (Lladin: Burhinidae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Adnabyddir pedwar is-rywogaeth, yn gwahaniaethu ychydig o ran maint a lliw y plu. Nid yw’n hawdd dweud y gwahaniaeth rhyngddynt.[22]

Disgrifiad[golygu cod]

Rhydiwr gweddol fawr yw’r rhedwr rhesog sydd â phig praff du a melyn, llygaid mawr melyn a phlu mannog cuddliwiedig. Fel y rhedwyr eraill mae ganddo gymalau chwyddiedig yn ei goesau gwyrdd golau. Mae’r enw gwyddonol a Saesneg yn cyfeirio at y ddwy res wen, un bob ochr i’w ben.[23]

Mae’r tyfu hyd at 46 i 50 cm, gan bwyso rhyw 780g . Uwchben mae ei blu llwydfrown gyda rhesi tenau, mae ganddo wddf a bron o frown mwy welw. Mae ei fol yn wyn. Ar ei ben mae aeliau gwyn amlwg gyda rhes ddu rhyngddynt. Mae’r cywionyn edrych yn debyg i’r oedolion ond gyda gwar gwyn a phlu ychydig yn dywyllach. Wrth hedfan mae’n drawiadol gyda clwt gwyn ar ochr uchaf yr adenydd, ac yn wyn o dan yr adenydd gyda rhes ddu ar hyd yr ochr ôl.[24]

Ymddygiad[golygu cod]

Mae’r aderyn yma yn nosol neu gyfnosol, gan fyw ar laswelltiroedd cras Canol a de America. Fel arfer mae’n osgoi hedfan oherwydd mae’n well ganddo ddibynnu ar gwrcwd a chuddliw er mwyn peidio cael ei weld. Mae ei gri yn dit-dit-dit-dit uchel. Maent yn bwyta pryfaid ac arthropodau.

Bridio[golygu cod]

Maent yn bridio yn ystod y tymor sych, gan ddodwy dau wy yn ystod Mis Ebrill neu Fis Mai. Mae’r wyau yn felynllwyd gyda mannau brown a llwyd. Y gwryw sy’n aros ar y nyth gan fwyaf.[25] Fel gweddill y teulu, crafiad syml ar bridd moel yw’r nyth. Mae’r cywion yn gadael y nyth yn fuan ar ôl deor. .

Dosbarthiad[golygu cod]

Aderyn o’r Byd Newydd yw’r rhedwr rhesog, a geir rhwng Mecsico Deheuol yn y Gopgledd trwy Canol America ac ar draws rhan Ogleddol De America hyd at Brasil. Mae un is-rywogaeth (B.b.dominicinensis) i’r gael ar Ynys Hispaniola.[26]

Statws[golygu cod]

Dynodir fel aderyn o’r pryder lleiaf oherwydd ei ddosbarthiad eang a phoblogaeth sefydlog.[27]



Erthygl 5

Rhedwr Senegal Burhinus senegalensis

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Rhedwr Senegal (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: rhedwyr Senegal) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Burhinus senegalensis; yr enw Saesneg arno yw Senegal stone-curlew. Mae'n perthyn i deulu'r Rhedwyr (Lladin: Burhinidae) sydd yn urdd y Charadriiformes.

Adnabyddir dau is-rywogaeth ar hyn o bryd, Burhinus senegalensis senegalensis sydd i’w gael rhwng Senegal a Gweriniaeth Canol Affrica ac Angola, a’r llall Burhinus sengalensis inornatus sydd ag amrediad mwy dwyreiniol rhwng yr Aifft ac Ethiopia. [28][29]

Disgrifiad[golygu cod]

Mae rhedwyr Senegal yn gallu tyfu hyd at 38 cm o daldra. Mae ganddynt pigau cwta praff du a melyn a llygaid melyn mawr. Mae eu plu mannog yn rhoi cuddliw da iddynt. Mae eu coesau hir gyda chymalau chwyddedig sy’n gyfrifol am eu henw Saesneg.

Mae’r rhedwr Senegal yn debyg iawn i redwr y dŵr, sydd hefyd yn gyffredin iawn ar draws Affrica. Mae gan y rhedwr Senegal fwy o wyn ar ei adenydd ac nad oes ganddo streipen lwyd ar yr adenydd.[30] Mae patrwm amlwg iddo wrth hedfan, gyda bar gwyn llydan ar ei adenydd. Ei gri yw pi-pi-pi-pi-pi-pi uchel.

Ymddygiad[golygu cod]

Mae rhedwr Sengal yn gyfnosol, yn actif tua’r wawr a machlud haul. Mae’n hoff o gynefinoedd agored, fel arfer yn ymyl dŵr. Ei fwyd yw pryfaid, mamaliaid bychain a chramenogion. Fel arfer maent yn aros yn yr un lleoliad, ond gallent symud pellteroedd byr pe bai llifogydd neu sychder.[31] Maen nhw yn byw fel parau neu grwpiau bychain o hyd at chwech.

Bridio[golygu cod]

Mae’r rhedwr Senegal yn bridio fel arfer cyn y tymor glawog, yn ôl y lleoliad. Fel rhedwyr eraill, ei nyth yw crafiad bas yn y tir, ar ben banc tywod neu lan afon. Mae’r wyau yn fannog, sy’n helpu’r cuddliw. Bydd y fenyw yn rhedeg at anifail sy’n dod yn rhy agos at y nyth er mwyn ei ddychryn i ffwrdd.[32]

Dosbarthiad[golygu cod]

Mae’r rhedwr Senegal i’w cael yn y glaswelltiroedd a safana o Affrica i’r De o’r Sahara ac i’r Gogledd o’r Cyhydedd, o Senegal yn y gorllewin pell hyd at Sudan a Somalia yn y Dwyrain. Hefyd mae i’w gael yn Nyffryn yr Afon Nîl i lan Môr y Canoldir.[33]

Statws[golygu cod]

Oherwydd amrediad eang a phoblogaeth sefydlog y rhedwr Senegal, dynodir iddo statws o'r pryder lleiaf gan IUCN (Undeb Rhyngwladol er Cadwraeth Natur).[34]



Erthygl 6

Rhedwr y dŵr Burhinus vermiculatus

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Rhedwr y dŵr (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: rhedwyr y dŵr) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Burhinus vermiculatus; yr enw Saesneg arno yw Water dikkop neu water thick-knee. Mae'n perthyn i deulu'r Rhedwyr (Lladin: Burhinidae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[35] Ystyr vermiculatus yw bod â marciau sy’n debyg i’r rhai a wnaed gan bryfaid genwair. [4] Adnabyddir dau rywogaeth ar hyn o bryd, sef, B. vermiculatus buttikoferi, a geir yng Ngorllewin a Chanol Affrica, o Liberia i Ogledd Gweriniaeth Democrataidd y Congo, a B. Vermiculatus vermiculatus, sydd iw’gael yn Nwyrain Affrica ac Affrica Deheuol rhwng Kenya a De Affrica.[36]

Disgrifiad[golygu cod]

Gall dyfu at 40 cm o daldra gyda choesau hir llwyd/llwydwyrdd gyda chymalau tibiotarsol (fferau) chwyddedig. Mae ei blu uwchben gyda rhesi twyyll ar gefndir brown golau. Is law mae rhedwr y dŵr yn wyn. Wrth hedfan gwelir patrwm amlwg o ddu a gwyn ar yr adenydd. Mae ganddo big mawr du gyda bôn melynwyrdd. Gall bwyso tua 300g. Mae ei lais yn fwy cras na’r redwr brych, ti-ti-ti-ti- tî-tî-tî-tî.[37]

Ymddygiad[golygu cod]

Mae rhedwr y dŵ, fel pob rhedwr, yn fwy actif gyda’r nos, pan fo’n hela arlannau afonydd a llynnoedd, gan fwyta pryfaid, cramenogion a molwsgiaid. Mae’n fwy actif yn ystod y dydd na’r redwr brych, gan sefyll ar lan dŵr. Maent i’w cael fel ar arfer ar eu pennau eu hunain, neu mewn parau pan fo’n bridio, ond mae’n bosib gweld heidiau o 20-30 ohonynt. Mae’n well ganddo redeg na hedfan pan fo’n cael ymyrraeth, ond gall hedfan yn gryf.[38]

Bridio[golygu cod]

Maent yn nythu ar y ddaear rhwng Awst ac Ionawr, gan grafu pant bychan mewn tywod yng nghanol llwyni. Fel arfer mae’r fenyw yn dodwy dau wy o liw hufennog 49mm X 35mm ar gyfartaledd.[39] Mae’r ddau riant yn helpu edrych ar ôl y cywion, gan ddod â bwyd yn ôl i’r nyth. Mae’r cywion yn magu plu’r llawn ar ôl tua 60 diwrnod.

Dosbarthiad[golygu cod]

Mae gan rhedwr y dŵr ddosbarthiad eang ar draws y rhannau gwlypach o Affrica i’r De o’r Sahara, o Liberia yn y Gorllewin ar hyd y prif afonydd a chorsydd at Kenya, ac i Dde Affrica, ond yn osgoi Diifeithdir y Namib a Calahari. Mae ei gynefin yn cynnwys traethau a chorsydd mangrôf yn ogystal â llynnoedd ac afonydd.[40]

Statws[golygu cod]

Oherwydd amrediad eang a phoblogaeth sefydlog rhedwr y dŵr, dynodir iddo statws o “gonsyrn lleiaf” gan IUCN (Undeb Rhyngwladol er Cadwraeth Natur).[41]



Erthygl 7

Rhedwr y moelydd Burhinus oedicnemus

Aderyn sy'n byw ar diroedd agored ac sy'n perthyn i deulu'r Burhinidae ydy'r rhedwr y moelydd sy'n enw gwrywaidd; lluosog: rhedwyr y moelydd (Lladin: Burhinus oedicnemus; Saesneg: Eurasian Stone-curlew neu Eurasian thick-knee). Mae enw’r teulu, sef Burhinus yn deillio o’r Groegaidd bous, ychen, a rhis, trwyn. Mae enw’r rhywogaeth oedicnemus hefyd yn tarddu o’r Groegaidd 'oidio', sef 'i chwyddo', a 'kneme', 'y coes', gan gyfeirio at y cymalau tibio-tarsol amlwg, sydd hefyd yn rhoi ei enw Saesneg iddo. Mae’r enw thick-knee wedi’i dalfyrru o fathiad Pennant yn 1776 "thick kneed bustard".[42][43]

Disgrifiad[golygu cod]

Aderyn gweddol fawr yw rhedwr y moelydd er ei fod yn ganolig ei faint i gymharu ag aelodau eraill o’r un teulu. Mae ei hyd yn amrywio rhwng 38 a 46 cm, lled adenydd rhwng 76 a 88 cm a phwysau rhwng 290 a 535g. [44][45] Mae ganddo big cryf melyn a du, llygaid mawr melyn aphlumannog cuddliwiedig. Wrth hedfan mae’n nodedig gyda phatrwm du a gwyn.

Ymddygiad[golygu cod]

Mae rhedwr y moelydd yn hoff o diroedd agored gweddol sych gyda rhywfaint o dir moel. Fel arfer mae’n nosol neu gyfnosol. Y pryd yma mae’n canu. Mae ganddo gri uchel sy’n debyg i’r gylfinir, nodwedd sy’n gyfrifol am ei enw Saesneg. Bathwyd yr enw stone curlew yng Nghernyw, a nodwyd gyntaf gan Francis Willughby yn 1667 er nad yw rhedwr y moelydd yn perthyn i’r gylfinir.[46] Ei fwyd yw pryfaid ac o bryd i’w gilydd, ymlusgiaid bychain, llyffantod a cnofilod.

Bridio[golygu cod]

Fel eraill o’r un teulu, nyth rhedwr y moelydd yw crafiad syml ar dir moel. Mae 2 neu 3 wy fel arfer. Mae rhedwyr y moelydd angen tua 10 wythnos i fridio’n llwyddiannus. Mae ymarferion amaethyddol cyfoes yn fygythiad i hynny.[47]

Dosbarthiad[golygu cod]

Mae ei diriogaeth yn cynnwys Asia, Ewrop ac Affrica ac ar adegau i'w ganfod ar draethau arfordir Cymru. Mae tua 190 o barau bridio ar hyn o bryd ym Mhrydain, y rhan fwyaf yn Dwyrain Anglia. Mae’n un o adar mwyaf prin Prydain. Poblogaeth Ewrop o redwr y moelydd yw tua 35,000 ond mae poblogaethau wedi disgyn yn sydyn yn ddiweddar yn Nwyrain Ewrop.[48]

Statws[golygu cod]

Ar restr yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (UICN), caiff y rhywogaeth hon ei rhoi yn y dosbarth 'Lleiaf o Bryder' o ran niferoedd, bygythiad a chadwraeth.[49]


Erthygl 8

Rhedwr y traeth Esacus magnirostris

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Rhedwr y traeth (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: rhedwyr y traeth) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Esacus magnirostris; yr enw Saesneg arno yw Great Australian stone plover, beach stone-curlew neu beach thick-knee. Mae'n perthyn i deulu'r Rhedwyr (Lladin: Burhinidae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[50] Tarddiad yr enw gwyddonol yw y Groegaidd aisakos, sef rhyw aderyn y traeth. Ym mytholeg cafodd Aesakos, mab Priam, ei droi’n aderyn glan y môr.[51] Roedd yn arfer cael ei adnabod fel Esacus neglectus ac Esacus giganteus.

Disgrifiad[golygu cod]

Mae’n anodd cymysgu’r aderyn yma gyda unrhyw un arall. Mae’n fawr (55cm ac yn pwyso 1kg), yn wir un o’r adar traeth mwyaf, ac yr aelod mwyaf o’r Charadriformes tu allan o’r gwylanod a sgiwennod. Mae ganddo big praff melyn gyda blaen du, patrwm amlwg o ddu a gwyn ar ei ben, rhes wen ar ei ysgwydd a choesau hir melynwyrdd.[52] Ei gri pan fo’n dychryn yw cli-clinc gwan.

Ymddygiad[golygu cod]

Mae’n llai nosol na gweddill y rhedwyr a weithiau fe’i welir yn pori ar hyd traeth yn ystod y dydd. Mae’n aderyn wyliadwrus a nerfus. Ei gynefin yw traethau agored, rîffau cwrel, mangrôfau a thywod llanwol.[53]

Dosbarthiad[golygu cod]

Mae gan Rhedwr y traeth ddosbarthiad eang gan gynnwys Dwyrain Awstralia hyd at Ddwyrain Victoria, arfordir Gogledd Awstralia, Guinea Newydd, Indonesia, Malysia a’r Philipinau. Nid yw’n gyffredin dros y rhan fwyaf o’i ddosbarthiad.[54][55]

Bridio[golygu cod]

Fel arfer un wy hufennog â marciau melynwyrdd sydd’n cael ei ddodwy, ychydig uwchben y llinell penllaw ar draeth agored. Yma yn anffodus maent yn agored i ysglyfaethwyr ac ymyrraeth gan bobl.[56]

Statws[golygu cod]

Dynodir rhedwr y traeth fel aderyn yn agos i fygythiad ar Restr Coch yr IUCN.[57]

  1. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
  2. avibase.bsc-eoc.org; adalwyd 1 Mai 2017.
  3. Howard and Moore, A complete checklist of the birds of the world (2nd ed.) 1994
  4. G Maclean Roberts: Birds of Southern Africa (5ed argraffiad) 1985
  5. BirdLife International (2012). "Burhinus capensis". IUCN Red List of Threatened Species. Version 2013.2. International Union for Conservation of Nature. Retrieved 26 November 2013.
  6. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
  7. avibase.bsc-eoc.org
  8. S Ali; The book of Indian Birds
  9. S Ali; The book of Indian Birds
  10. S Ali; The book of Indian Birds
  11. Ali, Sálim; Ripley, S. Dillon (1978). Handbook of the birds of India and Pakistan : together with those of Bangladesh, Nepal, Bhutan and Sri Lanka. Volume 3 Stone Curlews to Owls (ail gyhoeddiad). New Delhi: Oxford University Press. t. 2. ISBN 019565936-8.
  12. Ali, Sálim; Ripley, S. Dillon (1978). Handbook of the birds of India and Pakistan : together with those of Bangladesh, Nepal, Bhutan and Sri Lanka. Cyfrol 3 Stone Curlews to Owls (ail argraffiad). New Delhi: Oxford University Press. t. 2. ISBN 019565936-8.
  13. www.iucnredlist.org
  14. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
  15. J Jobling A Dictionary of Scientific Bird Names
  16. S Ali; The book of Indian birds
  17. S Ali; The book of Indian birds
  18. datazone.birdlife.org; adalwyd 1 Mai 2017.
  19. datazone.birdlife.org; adalwyd 1 Mai 2017.
  20. Howard a Moore: A Complete Checklist of the Birds of the World (ail argraffiad) 1994
  21. [1]; adalwyd 1 Mai 2017.
  22. Howard a Moore, A Complete Checklist of the Birds of the World (ail rifyn) 1994
  23. S Hilty a W Brown: A Guide to the Birds of Colombia; 1986
  24. S Hilty a W Brown: A Guide to the Birds of Colombia; 1986
  25. S Hilty a W Brown: A Guide to the Birds of Colombia; 1986
  26. Howard a Moore, A Complete Checklist of the Birds of the World (ail rifyn) 1994
  27. iucnredlist.org; adalwyd 1 Mai 2017.
  28. avibase.bsc-eoc.org; adalwyd 1 Mai 2017.</
  29. Howard a Moore, A complete check list of the birds of the world
  30. avibase.bsc-eoc.org
  31. birdlife.org adalwyd 1 Mai 2017.</
  32. virunga.org; adalwyd 1 Mai 2017.
  33. birdlife.org adalwyd 1 Mai 2017.</
  34. birdlife.org adalwyd 1 Mai 2017.</
  35. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
  36. Howard a Moore, A complete checklist of the birds of the world (ail argr. 1994
  37. G Maclean, Roberts; Birds of Southern Africa (5ed argr.) 1985
  38. G Maclean, Roberts; Birds of Southern Africa (5ed argr.) 1985
  39. G Maclean, Roberts; Birds of Southern Africa (5ed argr.) 1985
  40. Howard a Moore, A complete checklist of the birds of the world (ail argr. 1994
  41. J Jobling; A Dictionary of Scientific Bird Names
  42. Jobling, James A (2010). The Helm Dictionary of Scientific Bird Names. Llundain: Christopher Helm. tt. 81, 280. ISBN 978-1-4081-2501-4.
  43. Lockwood, W.B. (1993). The Oxford Dictionary of British Bird Names. OUP. ISBN 978-0-19-866196-2.
  44. Eurasian Thick-knee - Burhinus oedicnemus; [www.birdsinbulgaria.org. Birds in Bulgaria]; 2011.
  45. Dunning, John B. Jr., ed. (1992). CRC Handbook of Avian Body Masses. CRC Press. ISBN 978-0-8493-4258-5.
  46. Penhallurick, R.D. (1969). Birds of the Cornish Coast. Truro: D. Bradford Barton Ltd. ISBN 978-0851530086.
  47. [2]; adalwyd 1 Mai 2017.
  48. [3]; adalwyd 1 Mai 2017.
  49. BirdLife International (2014). Burhinus oedicnemus. IUCN Red List of Threatened Species. Fersiwn 2015.2. International Union for Conservation of Nature. Adaliwyd 28 Mehefin 2015.
  50. Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
  51. A Dictionary of Scientific Bird Names gan J Jobling
  52. A Field Guide to the Birds of Australia gan G Pizzey
  53. BirdLife International (2012): Esacus giganteus; IUCN Red List of Threatened Species. Fersiwn 2013.2. International Union for Conservation of Nature. Adalwyd 16 Tachwedd 2013.
  54. A Field Guide to the Birds of Australia gan G Pizzey
  55. A complete checklist of the birds of the world gan Howard a Moore, (ail argraffiad) 1994.
  56. A Field Guide to the Birds of Australia gan G Pizzey
  57. datazone.birdlife.org; adalwyd 1 Mai 2017.