Wicipedia:Wici Cymru/Cofnodion 24 Hydref 2012

Oddi ar Wicipedia
   Hafan Datblygu        Cynllun Datblygu        Digwyddiadau        Cyhoeddusrwydd          Wici GLAM        Wici Addysg        Wici Cymru        Man Trafod    

* Cofnodion * Cyfansoddiad

Cofnodion cyfarfod a gynhaliwyd 12/09/2012 yn 8 Llys y Berllan, Rhuthun.

Yn bresennol: Martin Evans-Jones, Elfed Williams, Phil Jonathon, Robin Owain (Llywelyn 2000) ac Eirian. Ymddiheuriadau: Eleri James (Lloffiwr), Aberystwyth, Huw (Warrington) Williams, Rhys Wynne (Ben Bore) a Geraint Hughes.

Croesawyd pawb i'r cyfarfod gan Robin Owain.

Y cyd-destun: Rhoddwyd braslun o sefyllfa Wicipedia Cymraeg a'r cyd-destun ehangach gan Robin. Soniwyd am Gynllun Datblygu Wicipedia ar: http://cy.wikipedia.org/wiki/Wicipedia:Cynllun_Datblygu

Swyddogion:

Etholwyd y swyddogion canlynol:

  • Cadeirydd: Elfed Williams
  • Is-gadeirydd: Y Parch. Martin Evans-Jones
  • Ysgrifennydd: Dr. Phil Jonathan
  • Trysorydd: Huw Williams

Penderfynwyd:

  1. derbyn y Cyfansoddiad newydd
  2. barhau fel cymdeithas ond ar yr un pryd ein bod yn paratoi ar gyfer newid ein ffurf o fod yn gymdeithas i fod yn gwmni cyfyngedig elusenol yn gyfyngedig ei oblygiadau ariannol (‘liabilities’) a chytunwyd y byddai’r Cadeirydd yn mynd ati i baratoi’r gwaith papur
  3. cynnig am grant Cymraeg y Llywodraeth a thrafodwyd y cais. Hwn i fod i fewn yn ystod y dyddiau nesaf. Edrych ar y posibilrwydd o gael arian ychwanegol at y £17,500 a gynigir gan GeoVation / OS / Llywodraeth Cymru gan Wikimedia UK; awgrymwyd cais am y swm o £33,500; a chais wedyn i DTBF am swm o oddeutu £52,000
  4. fod Cynllun Datblygu Wicipedia Cymraeg yn cydorwedd yn esmwyth gyda Nodau ac Amcanion y Gymdeithas a’n bod yn ei fabwysiadu fel ein Cynllun Gweithredu.
  5. danfon at 3 Cyfrifydd Siartredig am Amcangyfrif i wneud y gwaith ariannol.
  6. cyfarfod eto ymhen tua tair wythnos
  7. ystyried newid enw’r Gymdeithas i naill ai Cymdeithas Llwybrau Agored neu Y Wici Cymraeg yn y cyfarfod nesaf.


Cloi:

Diolchodd y cadeirydd i bawb am ddod a nododd bwysigrwydd hanesyddol y cyfarfod: mai hwn yw’r gymdeithas gyntaf o’i bath gyda’r bwriad o gefnogi gwaith Wicipedia.