Wicipedia:Cofrestru
Gwedd
Nid oes yn rhaid mewngofnodi er mwyn darllen Wicipedia, ac nid yw'n angenrheidiol i fod â chyfrif cofrestredig i olygu erthyglau Wicipedia — gall bron pawb olygu bron bob yn erthygl, hyd yn oed heb fewngofnodi. Os nid ydych wedi mewngofnodi wrth olygu, mae person fel arfer yn golygu Wicipedia wedyn gyda chyfeiriad IP sydd wedi'i aseinio gan ei darparwr gwasanaeth rhyngrwyd (ISP). Er hynny, mae creu cyfrif yn gyflym, am ddim, ac yn anymwthiol, ac fe'i hystyrir yn syniad da i wneud felly am lawer o resymau
Crynodeb o fanteision
[golygu cod]Gall defnyddwyr cofrestredig:
- Ddechrau tudalennau newydd, gan gynnwys tudalen defnyddiwr.
- Olygu tudalennau wedi'i diogelu unwaith iddynt wneud deg golygiad gyda chyfrif pedwar diwrnod hen.
- Ailenwi tudalennau, ar ôl sbel.
- Uwchlwytho delweddi, ar ôl sbel.
- Anfon a derbyn e-byst i ac oddi wrth ddefnyddwyr eraill.
- Addasu golwg ac ymddygiad y gwefan.
- Gadw rhestr wylio er mwyn cadw llygad ar newidiadau i erthyglau sydd o ddiddordeb ichi.
- Ddewis enw defnyddiwr. (Dylai fod yn enw addas)
- Adolygu cyfraniadau.
- Ddefnyddio rhagor o uwch offer golygu.
- Bleidleisio dros etholiadau'r Pwyllgor Cyflafareddu ac etholiadau Bwrdd Wikimedia.
- Olygu heb ddangos y cyfeiriad IP.
- Fewngofnodi i mewn i brosiectau Wikimedia eraill.
- Addasu llofnodion i'w gosod ar dudalennau sgwrs gan fynd at y dewisiadau.