Wicipedia:Ail enwi neu symud tudalen

Oddi ar Wicipedia

Gellir symud tudalennau i deitl newydd os yw'r un blaenorol:

  • yn wallus,
  • yn anghyflawn,
  • yn gamarweiniol,

neu amryw o resymau eraill megis bod:

Pan ail-enwir tudalen, atodir hanes y dudalen i'r enw newydd, ac ailgyfeirir y teitl blaenorol yn awtomatig i'r enw newydd (mae gan fotiau a gweinyddwyr yr opsiwn o atal yr ailgyfeiriad). Dim ond defnyddwyr awto-gadarnhau sydd â'r gallu i symud tudalen oherwydd fandaliaeth barhaus ar ffurf symud tudalennau. Os nad oes cyfrif gennych neu os nad ydy'ch cyfrif wedi ei gadarnhau eto, gallwch holi i rywun arall symud tudalen yma.

Pan symudir tudalen sydd ym mharth y ffeiliau (h.y., cyfryngau), symudir y ffeil perthnasol hefyd. Dim ond y gweinyddwyr sydd â'r gallu i wneud hyn. Ni ellir symud tudalennau ym mharth y categorïau.

Rhesymau dros symud tudalen[golygu cod]

Ceir llawer o resymau dros symud tudalen:

  • Camsillafwyd y teitl, nid yw'n cynnwys atalnodi neu briflythrennu safonol, neu mae'n gamarweiniol neu'n wallus.
  • Nid yw'r teitl yn dilyn confensiynau enwi Wicipedia, nid yr enw mwyaf cyfarwydd am y pwnc sydd arno neu mae'n or-drachywir.
  • Mae angen gwahaniaethu rhwng dwy erthygl ag enwau tebyg arnynt.
  • Lleihawyd yr erthygl, fe'i hymestynnwyd neu fe newidiwyd ei chwmpas, felly mae angen newid yr enw disgrifiadol arni i gyfateb â'r newid iddi.
  • Crëwyd yr erthygl fel is-dudalen yn gyntaf er mwyn ei datblygu, ond bellach mae'n barod i fynd yn fyw.
  • Mae'n dudalen sgwrs ac mae ei thrafodaethau yn barod i'w harchifo.