Wicipedia:Wici Addysg/Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Hafan | Trafod | Digwyddiadau ac Adroddiadau | Wici Addysg | Wici GLAM | Wici Cymru |
Cydlynydd Wicipedia y Coleg Cymraeg Cenedlaethol[golygu cod]Ym mis Mawrth 2014 penodwyd Marc Haynes yn Gydlynydd Wicipedia ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd yn adrodd yn ôl i Fwrdd Academaidd y Coleg ac i Wikimedia DU ar sut orau i ryddhau deunydd addysg uwch a'i ddatblygwyd gan y Coleg ar lwyfannau Wikimedia. Bydd hyfforddi staff academaidd yn y prifysgolion sy'n gweithio ar y cyd â'r Coleg (sef Prifysgol Abertawe, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd) hefyd yn ran bwysig o'r swydd. Mae croeso i chi gysylltu â Marc ar ei dudalen sgwrs, ar dudalen sgwrs y prosiect neu trwy ddanfon e-bost at e-bost at m.haynescolegcymraeg.ac.uk. Fe fydd y prosiect yn para hyd Fedi 2014, ond y bwriad yw y greu perthynas rhwng y Coleg a Wikimedia a wneiff bara y tu hwnt i'r dyddiad hynny. Sylw yn y wasg ac ar-lein[golygu cod]
Gweler hefyd[golygu cod] |