When I Consider How My Light is Spent
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | soned |
---|---|
Awdur | John Milton |
Iaith | Saesneg |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Soned gan John Milton ac un o'i gerddi enwocaf yw "When I Consider How My Light is Spent" neu "On His Blindness". Cafodd ei hysgrifennu yn y 1650au.
Pwnc y gerdd yw dallineb Milton, a'i fyfyrion ar effaith ei anabledd o ran ei grefydd. Mynega'r bardd ei siom na allai wasanaethu Duw wrth iddo golli ei olwg. "Amynedd" sy'n ei ateb, gan ddweud nid oes wir angen ar waith dyn gan Dduw. Yn hytrach, y gallu i gario "iau ysgafn" Duw sy'n bwysig. Clo'r soned gan y llinell enwog "They also serve who only stand and wait".