Wellington, Swydd Amwythig

Oddi ar Wicipedia
Wellington
Mathtref, plwyf sifil, tref farchnad Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolTelford a Wrekin
Daearyddiaeth
SirSwydd Amwythig
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.7001°N 2.5157°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04000947 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ651115 Edit this on Wikidata
Cod postTF1 Edit this on Wikidata
Map

Tref a plwyf sifil sydd bellach yn ardal faestrefol o dref newydd Telford yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Wellington.[1] Fe'i lleolir yn awdudod unedol Telford a Wrekin. Yn hanesyddol roedd Wellington yn dref ynddo'i hun, ond yn y 1960au cafodd ei hymgorffori yn nhref newydd Telford.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 21,352.[2]

Mae tref Wellington yn dyddio i'r cyfnod Eingl-Sacsonaidd, ond, gyda datblygaid tref newydd Telford yn y 1960au a'r 1970au, daeth yn rhan o'r dref newydd honno. Mae'r dref wedi cadw ei hen gyfaredd ei hun gyda gorsaf trenau o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg a llyfrgell Edwardaidd. Cafodd siarter fel tref farchnad ym 1244. Mae'r farchnad leol yno o hyd, yn agos i sgwâr y farchnad yng nghanol y dref. Mae gan y dref orsafoedd trenau a bysiau, ac mae traffordd yr M54 yn gyfagos. Poblogaeth Wellington yw 20,430 (Cyfrifiad 2001).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 27 Medi 2020
  2. City Population; adalwyd 21 Rhagfyr 2020
Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Amwythig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato