Weird Tales

Oddi ar Wicipedia
Weird Tales
Enghraifft o'r canlynolpulp magazine, semiprozine Edit this on Wikidata
Daeth i benMedi 1954 Edit this on Wikidata
GolygyddFarnsworth Wright, Dorothy McIlwraith, Edwin Baird Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1923 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1923 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.weirdtales.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cylchgrawn pwlp Americanaidd yw Weird Tales a gafodd ei gyhoeddi gan sawl cwmni, gan gychwyn gyda Rural Publications yn 1923, ac a gyhoeddir o hyd heddiw. Daeth yn enwog am ei straeon arswyd, ffantasi, a ffuglen wyddonol.

Mae hanes cyhoeddi Weird Tales yn hir a chymhleth. Y golygydd cyntaf oedd Edwin Baird pan gyhoeddwyd y cylchgrawn gan Rural Publications (1923-1924). Daeth Henneberger a Kline yn olygyddion gyda Chyfrol 4, rhif 2, (Mai 1924). Prynwyd yr hawlfraint gan Popular Fiction a gyhoeddodd y cylchgrawn o 1924 hyd 1938. Yn 1938 cymerwyd y cylchgrawn drosodd eto a sefydlu cyhoeddwyr Weird Tales, Inc. (1938-54). Dyma "oes aur" y cylchgrawn efallai. Yn 1973, ar ôl i'r hawlfraint newid dwylo sawl gwaith ac ailgyhoeddi cyfrolau cynnar gan sawl gwmni, dechreuodd Renown Publications gyfres newydd o Weird Tales gyda Sam Moskowitz yn olygydd. Mae sawl fersiwn o'r cylchgrawn wedi gweld golau'r dydd ers hynny.

Clawr Weird Tales, Ionawr 1938
Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.