Wayne Static

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
WayneStatic07.jpg

Cerddor Americanaidd oedd Wayne Richard Wells(4 Tachwedd 1965 - 1 Tachwedd 2014) [1], sy'n fwyaf adnabyddus fel prif leisydd y band 'metel diwydiannol' Static-X, ac a elwir yn broffesiynol fel Wayne Statig.

Lansiodd ei albwm solo (ei unig un), Pighammer, ar 4 Hydref 2011.

Ganwyd Wayne yn Muskegon, Michigan.[2][3][4] Cafodd ei fagu yn Shelby, Michigan cyn symud i Chicago, Illinois a California. Derbyniodd ei gitar cyntaf pan oedd yn dair oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Awgrymwyd mai ei enw gwreiddiol oedd "Wayne Richard Myaard" ond hyd yma ni chafwyd tystiolaeth o hyn.
  2. Wayne Static Bio, IMDb, adalwyd 1 Ionawr 2008
  3. Wayne Static Bio, FoxyTunes.com, adalwyd 1 Ionawr 2008
  4. Static-X to perform Wednesday, Deseret News (Salt Lake City), 17 Mehefin 2005, adalwyd 1 Ionawr 2008