Walts

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Waltz)
Dawnsio'r walts yn hwyr y 19eg ganrif.

Dawns neuadd a ddatblygodd o'r Ländler yn y 18g yn yr Almaen ac Awstria yw'r walts[1][2] neu'r wals.[2]

Prif nodwedd y walts yw troedio, llithro, a throedio mewn amser triphlyg tra'n cylchdroi. Yn ei dyddiau cynnar, roedd y walts yn sioc ac yn codi gwrychyn rhai cymdeithasau o fewn Ewrop gan yr anghenraid i gyplau gofleidio'i gilydd yn glos. Ond erbyn y 19g, hon oedd y ddawns neuadd fwyaf poblogaidd, a pharhaodd ei bri drwy'r 20g.[3]

Ymhlith y cyfansoddwyr clasurol a gyfansoddodd waltsiau mae Frédéric Chopin, Pyotr Ilyich Tchaikovsky, Johann Strauss I a Johann Strauss II.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod]

Benthycair o'r gair Saesneg waltz yw "walts".[1] Daw'r gair Saesneg o'r Almaeneg, walzen, sef "i gylchdroi".[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1  walts. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Ionawr 2015.
  2. 2.0 2.1 Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1637 [waltz].
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) waltz (dance). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Ionawr 2015.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am ddawns. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.