Walton Cardiff

Oddi ar Wicipedia
Walton Cardiff
Mathpentref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolAshchurch Rural
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaerloyw
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.988056°N 2.134444°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO907322 Edit this on Wikidata
Map

Pentref yn sir seremonïol Swydd Gaerloyw, De-orllewin Lloegr ydy Walton Cardiff.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Ashchurch Rural yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Tewkesbury. Saif yn uniongyrchol i'r de-ddwyrain o dref Tewkesbury yn agos at draffordd yr M5. Cyn 2008 roedd Walton Cardiff yn blwyf sifil ynddi'i hun ond yn y flwyddyn honno cafodd ei rannu yn ddau a'i ymgorffori yn y plwyfi sifil newydd Ashchurch Rural a Wheatpieces.[2]

Hanes[golygu | golygu cod]

Enwir y pentref yn "Waltone" yn Llyfr Dydd y Farn ym 1086; fe'i lleolwyd yn hwndrwd Tewkesbury.[3] Roedd y lle ym meddiant William de Cardiff erbyn 1166.[4] Y berchnogaeth hon o'r pentref gan deulu Cardiff dros sawl cenhedlaeth a arweiniodd at yr enw "Walton Cardiff".

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 6 Hydref 2021
  2. O dan "The Tewkesbury (Parishes) Order 2007 – S.I. 2007 no. 3577"; gweler tud. 9 o "Bulletin of changes to local authority electoral arrangements, areas and names in England: Orders made between 1 April 2007 and 31 March 2008", The National Archives, adalwyd 6 Hydref 2021
  3. Walton Cardiff yn Llyfr Dydd y Farn (Domesday Book)
  4. "Parishes: Walton Cardiff", British History Online; adalwyd 6 Hydref 2021

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]