Bwrdeistref Tewkesbury

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Bwrdeistref Tewkesbury
Math ardal an-fetropolitan, bwrdeisdref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddol Swydd Gaerloyw
Prifddinas Tewkesbury Edit this on Wikidata
Poblogaeth 86,900 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Swydd Gaerloyw
(Sir seremonïol)
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Arwynebedd 414.4144 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52°N 2.1667°W Edit this on Wikidata
Cod SYG E07000083 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaethol Cyngor Bwrdeistref Tewkesbury Edit this on Wikidata

Ardal an-fetropolitan yn sir seremonïol Swydd Gaerloyw, De-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Tewkesbury.

Mae gan yr ardal arwynebedd o 414 km², gyda 92,999 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Lleolir y fwrdeistref yng ngogledd Swydd Gaerloyw; mae'n ffinio â phum ardal arall, sef Ardal Fforest y Ddena, Ardal Stroud, Dinas Caerloyw, Ardal Cotswold a Bwrdeistref Cheltenham, yn ogystal â sir Swydd Gaerwrangon.

Bwrdeistref Tewkesbury yn Swydd Gaerloyw

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.

Mae'r pencadlys yr awdurdod yn nhref Tewkesbury, tref fwyaf yr ardal. Mae'r aneddiadau mwy yn cynnwys tref Winchcombe a'r pentrefi Ashchurch, Bishop's Cleeve, a Churchdown.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. City Population; adalwyd 10 Ebrill 2020
Severn Cross.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Gaerloyw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato