Wales, Alaska

Oddi ar Wicipedia
Wales
Mathdinas yn yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Poblogaeth168 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 16 Ebrill 1964 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−09:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirNome Census Area Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Arwynebedd6.539062 km², 6.539061 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr8 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau65.612222°N 168.089167°W Edit this on Wikidata
Cod post99783 Edit this on Wikidata
Map
Pentref Brodorol Kingigin (Wales). Cymuned mwyaf gorllewinol tir mawr cyfandir America.
Gweler Wales am enghreifftiau eraill o'r enw.

Dinas fach yn Nome Census Area, Alaska, yn nhalaith Alaska, Unol Daleithiau America, yw Wales (Inupiaq: Kiŋigin, IPA: [kiŋiɣin]). Mae ganddi boblogaeth o 145[1] (cyfrifiad 2010). 93.8% ohonynt yn frodorion[1]. Fe'i lleolir ar Benrhyn Tywysog Cymru (o le daw'r enw Saesneg ar y gymuned) ar Orynys Seward 65°36′N 168°5′W / 65.600°N 168.083°W / 65.600; -168.083, 180 km (111 milltir) i'r gogledd-orllewin o Nome. Dyma'r gymuned fwyaf gorllewinol ar dir mawr cyfandiroedd America. (Hyd at 2010 y trigolion mwyaf gorllewinol oedd cymuned ynys Attu yn ynysoedd yr Aleut. 52°51′N 173°11′E / 52.850°N 173.183°E / 52.850; 173.183). (Er mai pentref ydyw, fe'i gelwir yn ddinas am ei fod yn ganolfan i'r ardal anghysbell o'i chwmpas. Mae'r boblogaeth yn byw mewn 43 o'r 51 tŷ sydd yn y gymuned (24 ohonynt â "theuluoedd"[1]).

Culfor Bering sy'n rhannu Rwsia a'r Unol Daleithiau. (Mae Kingigin ger "Point Spencer Light" ar y map. Gweler, hefyd map[2].)

Kingigin, wedi ei enwi ar ôl y mynydd lleol, yw ei enw i'r trigolion Inupiaq, sy'n cyfeirio at eu hunain fel Kingikmiut[3]. Kingigin yw un o gymunedau hynaf ardal Cilfor Baring. (Pellter o 51 milltir sydd, heddiw, yn rhannu'r Unol Daleithiau o Rwsia.) Roedd iddi boblogaeth o 500-600 cyn ac ar ôl dyfodiad yr hil wen. Bu pandemig ffliw 1918 yn argyfwng, a hanerwyd y boblogaeth[3].

Trefnwyd y Pentref Brodorol yn ôl yr Indian Reorganization Act yn 1934. Derbyniwyd y trefniant rhwng y gymuned ac Adran Mewndiroedd yr Unol Daleithiau ar Orffennaf 29, 1939[3]. Prynwyd Alaska gyfan gan yr Unol Daleithiau, o Ymerodraeth Rwsia ar 30 Mawrth 1867 am $7.2 miliwn. Yn 1912 fe'i trefnwyd yn Diriogaeth. Ar 3 Ionawr 1959 daeth yn 49fed talaith yr Unol Daleithiau.

Brodorion ardal Kingigin tua 1904.

Gerllaw Kingipin mae Parc Cadwraeth Tirbont Baring (Bering Land Bridge National Preserve)[4]. Yma gwarchodir hanes naturiol - gan gynnwys hanes pwysig dynoliaeth (a phoblogi cyntaf cyfandir yr Amerig) - yr ardal. (Mae map da o'r ardal ar eu gwefan[2].)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "American FactFinder". US Census Bureau. 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-14. Cyrchwyd Chwefror 17, 2019.
  2. 2.0 2.1 "Map Parc Gwarchod Tirbont Beringia". National Parks Service (Yr Unol Daleithiau). Cyrchwyd Chwefror 17, 2019.
  3. 3.0 3.1 3.2 "Wales (Gwefan brodorion Kawerak)". Kawerak, Inc. 2018. Cyrchwyd Chwefror 17, 2019.
  4. "Parc Gwarchod Tirbont Beringia". Nation Parks Service, Yr Unol Daleithiau. 30 Ionawr 2018. Cyrchwyd Chwefror 17, 2019.