Aleut
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig |
---|---|
Math | Alaska Natives |
Mamiaith | Aleut, saesneg, rwseg |
Crefydd | Eglwysi uniongred, siamanaeth, eneidyddiaeth |
Rhan o | Inuit–Yupik–Unangan |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Pobl frodorol sy'n byw yn Ynysoedd Aleutia oddi ar arfordir gorllewin Canada ac yng ngorllewin eithaf Alaska (Unol Daleithiau) yw'r Aleut (neu Aleutiaid). Maen nhw'n un o'r mwyaf gogleddol o lwythau brodorol yr Amerig. I raddau mai gan eu diwylliant llawer mewn cyffredin â'r Inuit (Esgimo). Mae'r mwyafrif helaeth o'r Aleut yn byw yn Alaska (tua 17,000). Ceir canran bach yn byw yn nwyrain Siberia yn ogystal (tua 700 o bobl).
Yn y gorffennol arferent hela morloi, morfilod a walrwsau mewn cychod a wnaed o groen anifeiliaid a phren, y bidarka, sy'n debyg i kayaks yr Inuit. Yn ogystal arferent pysgota eogiaid ac weithiau hela eirth a caribŵ. Roeddent yn grefftwyr medrus a wnaethai fasgedi a phob math o offer mewn carreg, asgwrn ac ifori'r walrws.
Gostyngodd eu nifer yn sylweddol yn ystod ail hanner y 19g ac ers hynny mae ei ffordd o fyw wedi newid cyn dipyn. Mae eu hiaith, yr Aleuteg, yn ymrannu'n dair tafodiaith.