Via Sacra
Jump to navigation
Jump to search
Ffordd Rufeinig yn ninas Rhufain yw'r Via Sacra, hefyd Sacra Via ("y ffordd gysegredig"). Roedd yn cychwyn ar y Velia, lle mae Bwa Titus yn awr, ac yn arwain tua'r dwyrain i gyfeiriad y Forum Romanum i gyrraedd Teml Vesta a'r Regia.
Cafodd ei henw oherwydd nifer y temlau oedd ar ei hyd, yn cynnwys Teml Vesta, Teml Gwyryfon Vesta a thai swyddogol y Pontifex Maximus a'r Rex sacrorum. Yn ôl traddodiad, roedd rhai o frenhinoedd cynnar Rhufain, Numa Pompilius, Ancus Martius a Tarquinius Superbus, yn byw ar y Via Sacra.