Vera Brittain

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Vera Brittain
Vera Brittain.jpg
Ganwyd 29 Rhagfyr 1893 Edit this on Wikidata
Newcastle-under-Lyme Edit this on Wikidata
Bu farw 29 Mawrth 1970 Edit this on Wikidata (76 oed)
Wimbledon Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaeth nyrs, ysgrifennwr, bardd, nofelydd, ffeminist, heddychwr, newyddiadurwr, gweithredydd heddwch, ymgyrchydd pleidlais i ferched Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Testament of Youth Edit this on Wikidata
Priod George Catlin Edit this on Wikidata
Partner Roland Leighton Edit this on Wikidata
Plant Shirley Williams, John Edward Jocelyn Brittain Catlin Edit this on Wikidata

Awdures, ffeminist a nyrs Seisnig oedd Vera Mary Brittain (29 Rhagfyr 189329 Mawrth 1970). Mam y gwleidydd Shirley Williams oedd hi. Roedd hi'n fwyaf adnabyddus am ei hunangofiant, Testament of Youth.

Cafodd ei geni yn Newcastle Under Lyme, yn ferch i Thomas Arthur Brittain (1864–1935) a'i wraig, Edith Bervon Brittain (1868–1948). Roedd ganddi un brawd, Edward. Cafodd ei magu ym Macclesfield a

Aeth i astudio Llenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg Somerville, Rhydychen, ond yna daeth yn nyrs wirfoddol (VAD) yn Llundain, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Aeth i Ffrainc a Malta i weithio fel nyrs. Lladdwyd ei brawd Edward a hefyd ei cariad, Roland Leighton, ar faes y gad. Ar ôl dychwelyd i Rydychen, cyfarfu â Winifred Holtby. Daeth y ddwy ohonyn nhw'n nofelwyr; bu farw Holtby ym 1935. Daeth Vera yn ymgyrchydd heddwch gweithredol.

Priododd George Catlin, wedyn Syr George, ym 1925.[1] Eu fab oedd yr arlunydd John Brittain-Catlin (1927–1987). Bu farw Vera Brittain yn Wimbledon yn 76 oed.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Nofelau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • The Dark Tide (1923)
  • Honourable Estate (1936)

Hunangofiant[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Testament of Youth (1933)
  • Honourable Estate (1936)
  • Testament of Friendship (1940)
  • Testament of Experience (1957)

Eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Halcyon: Or, The Future of Monogamy (1929)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Grayling, A. C.; Pyle, Andrew; Goulder, Naomi (2006). The Continuum encyclopedia of British philosophy. Bristol: Thoemmes Continuum. ISBN 9781843711414. OCLC 676714142.