Shirley Williams
| Shirley Williams | |
|---|---|
| Ganwyd | Shirley Vivian Teresa Brittain Catlin 27 Gorffennaf 1930 Llundain |
| Bu farw | 11 Ebrill 2021 Llundain |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | gwleidydd |
| Swydd | Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg, Tâl-feistr Cyffredinol, Ysgrifennydd Gwladol dros Brisiau a Diogelu Defnyddwyr, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid, Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Is-Ysgrifennydd Gwladol dros y Swyddfa Cartref, Aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU |
| Cyflogwr | |
| Plaid Wleidyddol | y Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Lafur, Y Democratiaid Cymdeithasol |
| Tad | George Catlin |
| Mam | Vera Brittain |
| Priod | Bernard Williams, Richard Neustadt |
| Plant | Rebecca Williams |
| Gwobr/au | Cydymaith Anrhydeddus, Ysgoloriaethau Fulbright, doethuriaeth er anrhydedd, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Rhydychen |
Roedd Shirley Williams (Shirley Vivian Teresa Brittain Williams, Barwnes Williams o Crosby) (ganwyd Catlin; 27 Gorffennaf 1930 – 12 Ebrill 2021)[1] yn wleidydd ac yn ysgolhaig Seisnig. Roedd hi'n aelod seneddol o'r Blaid Lafur rhwng 1964 a 1979, ac yn aelod y cabinet yn y llywodraeth Harold Wilson ac wedyn James Callaghan. Roedd hi'n aelod o'r "Gang of Four" a adawodd y Blaid Lafur ym 1981 i ffurfio’r Y Democratiaid Cymdeithasol (Saesneg: SDP). Roedd hi'n arlywydd yr SDP rhwng 1982 a 1987.
Bu farw Williams yn Llundain, yn 90 oed. Dwedodd Tony Blair mai "Shirley Williams oedd un o ddemocratiaid cymdeithasol mwyaf y ganrif ddiwethaf".[2]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Cafodd Williams ei geni yn Llundain, yn ferch yr awdures Vera Brittain a'i gŵr, Syr George Catlin a chafodd ei haddysg yng Ngholeg Somerville, Rhydychen. Bu'n byw yn yr Unol Daleithiau am dair blynedd, yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Priododd â Bernard Williams ym 1955a chawsant un ferch, Rebecca.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Langdon, Julia (12 Ebrill 2021). "Lady Williams of Crosby obituary". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 12 Ebrill 2021.
- ↑ "Shirley Williams wedi marw yn 90 oed". Golwg360. 12 Ebrill 2021. Cyrchwyd 13 Ebrill 2021.