Winifred Holtby

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Winifred Holtby
Photo of Winifred Holtby.jpg
Ganwyd 23 Mehefin 1898 Edit this on Wikidata
Rudston Edit this on Wikidata
Bu farw 29 Medi 1935 Edit this on Wikidata (37 oed)
Achos: llid yr arennau Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaeth awdur, newyddiadurwr, nofelydd, ysgrifennwr, swffragét Edit this on Wikidata
Adnabyddus am South Riding Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr Goffa James Tait Black Edit this on Wikidata

Ffeminist o Loegr oedd Winifred Holtby (23 Mehefin 1898 - 29 Medi 1935) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, nofelydd, awdur a swffragét. Mae hi bellach yn fwyaf adnabyddus am ei nofel South Riding, a gyhoeddwyd ar ôl marwolaeth ym 1936. [1][2][3][4]

Fe'i ganed yn Rudston a bu farw yn Llundain o lid yr arennau. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Somerville a Choleg Rhydychen.

Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: South Riding.

Roedd Holtby, ynghyd â Brittain, yn ffeministaidd, sosialydd a heddychwr i'r carn. Bu’n darlithio’n helaeth ar gyfer Undeb Cynghrair y Cenhedloedd ac yn aelod o’r Grŵp Chwe Phwynt (Six Point Group) ffeministaidd. Roedd hi'n weithgar yn y Blaid Lafur Annibynnol ac roedd yn ymgyrchydd pybyr dros hawliau'r gweithwyr du yn Ne Affrica, pan ddaeth i gysylltiad â Leonard Woolf.

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Holtby ar fferm lewyrchus ym mhentref Rudston, Swydd Efrog. Ei thad oedd David Holtby a'i mam, Alice, oedd yr alderwoman gyntaf ar Gyngor Dwyrain Swydd Efrog.

Addysgwyd Holtby gartref gan ei governess ac yna yn Ysgol y Frenhines Margaret yn Scarborough. Er iddi basio’r arholiad mynediad ar gyfer Coleg Somerville, Rhydychen ym 1917, dewisodd ymuno â Chorfflu Ategol Byddin y Merched (WAAC) yn gynnar yn 1918 ond yn fuan ar ôl iddi gyrraedd Ffrainc, daeth y Rhyfel Byd Cyntaf i ben a dychwelodd adref.[5]

Plac glas ar wal yn 52 Doughty Street, Holborn, Llundain

Ym 1919, dychwelodd i astudio i Brifysgol Rhydychen lle cyfarfu â Vera Brittain, cyd-fyfyriwr ac yn ddiweddarach awdur Testament of Youth, a blodeuodd y gyfeillgarwch drwy gydol ei hoes. Ymhlith y cyfoeswyr llenyddol eraill yng Ngholeg Somerville roedd Hilda Reid, Margaret Kennedy a Sylvia Thompson. Ar ôl graddio o Rydychen, ym 1921, symudodd Winifred a Vera i Lundain, gan obeithio sefydlu eu hunain fel awduron (mae'r plac glas yn Rhif 82 Doughty Street yn cyfeirio at y ddwy).

Yr awdur[golygu | golygu cod y dudalen]

Darlledwyd nifer o'i nofelau cynnar, yn yr 21g, ond ni chwsant lawer o lwyddiant. yn eu plith roedd: Anderby Wold (1923), The Crowded Street (1924) a The Land of Green Ginger (1927).

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Claddwyd Holtby ym mynwent eglwys yr Holl Saint yn Rudston, Dwyrain Swydd Efrog, ychydig lathenni o'r tŷ y cafodd ei geni ynddo. Ei beddargraff yw ei geiriau hi ei hun: "Dduw, rho waith i mi nes bydd fy mywyd yn dod i ben, a bywyd nes bydd fy ngwaith wedi'i orffen".[6]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Goffa James Tait Black .

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12024432j; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12024432j; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12024432j; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Dyddiad marw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12024432j; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. "Holtby, Winifred (1898–1935)". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-37563#. Cyrchwyd 24 Ebrill 2019.
  6. "Winifred Holtby (1898 - 1935) - Find A Grave Memorial". www.findagrave.com.