Union Académique Internationale
Jump to navigation
Jump to search
Ffederasiwn o academïau cenedlaethol ac academïau rhyngwladol o fwy na 60 o wledydd ledled y byd yw'r Union Académique Internationale (UAI). Mae'n hyrwyddo cydweithrediad mewn ymchwil ym meysydd seicoleg, archeoleg, hanes, gwyddorau gwleidyddol a chymdeithasol a'r dyniaethau yn gyffredinol.
Sefydlwyd yr UAI ym 1919 ar awgrym yr Académie des Inscriptions et Belles-Lettres. Ffrangeg yw iaith swyddogol y sefydliad.
Enillodd Wobr Erasmus ym 1964.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) "Former Laureates: Union Académique Internationale". Praemium Erasmianum Foundation. Cyrchwyd 10 Medi 2017.
Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Gwefan swyddogol yr UAI