Uned sylfaenol SI
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Unedau sylfaenol SI)
| Symbol | Enw | Mesur |
|---|---|---|
| A | amper | cerrynt trydanol |
| cd | candela | arddwysedd golau |
| kg | cilogram | màs |
| s | eiliad | amser |
| K | kelvin | tymheredd |
| m | metr | hyd |
| mol | môl | swm y sylwedd |
Saith uned fesur a ddiffinnir gan y System Ryngwladol o Unedau yw'r unedau sylfaenol SI.[1] Diffinnir y saith uned sylfaenol fel dimensiynau sy'n annibynnol ar ei gilydd. Gall holl unedau eraill y system (yr unedau deilliadol) ddeillio o'r saith hyn.
Dyma'r unedau a'r meintiau y maent yn eu mesur:
- amper (A) – cerrynt trydanol
- candela (cd) – arddwysedd golau
- cilogram (kg) – màs
- eiliad (s) – amser
- kelvin (K) – tymheredd
- metr (m) – hyd
- môl (mol) – swm y sylwedd
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The International System of Units (SI) (Bureau International des Poids et Mesures, Awst 2025); adalwyd 24 Ebrill 2026