Un clip papur coch

Oddi ar Wicipedia
Y clip papur yr oedd Kyle MacDonald yn ei cyfnewid am dŷ

Gwefan yw un clip papur coch a grëwyd gan y blogiwr o Ganada, Kyle MacDonald, a gyfnewidiodd un clip papur coch i nifer o wrthrychau, ac yn y diwedd i dŷ, a hynny mewn cyfres o bedwar ar ddeg o gyfnewidiadau ar-lein dros gyfnod o flwyddyn.[1] Cafodd MacDonald ei ysbrydoli gan y gêm o'i plentyndod Bigger, Better. Derbyniodd ei safle gryn dipyn o sylw am dracio'r cyfnewidiadau. "Mae llawer o bobl wedi bod yn gofyn sut rydw i wedi cynhyrfu cymaint o gyhoeddusrwydd o amgylch y prosiect, a fy ateb syml yw: 'Does gen i ddim syniad', meddai wrth y BBC.[2]

Llinell amser y cyfnewidiadau[golygu | golygu cod]

Tŷ Kyle MacDonald
Gosodwyd y cerflun hwn o glip papur coch yn 2007 yn Bell Park yn Kipling fel cofeb i'r gyfres o gyfnewidiadau a wnaed gan MacDonald. Ar y pryd, hwn oedd y clip papur mwyaf yn y byd.

Gwnaeth MacDonald ei gyfnewidiad gyntaf, clip papur coch ar gyfer beiro siâp pysgod, ar 14 Orffennaf 14 2005. Cyrhaeddodd ei nod o barhau i gyfnewid pethau hyd at dŷ gyda'r pedwerydd cyfnewidiad ar ddeg, gan cyfnewid rôl mewn ffilm ar gyfer dŷ. Dyma'r rhestr o'r holl drafodion a wnaeth MacDonald:[2]

  1. Ar 14 Gorffennaf 2005 aeth i Vancouver a chyfnewidiodd y clip papur am beiro siâp bysgodyn.
  2. Yna cyfnewidiodd y pen yr un diwrnod ar gyfer dwrn drws wedi'i gerflunio â llaw o Seattle, Washington.
  3. Ar 25 Gorffennaf 2005, teithiodd i Amherst, Massachusetts, gyda ffrind i gyfnewid y dwrn drws ar gyfer stôf gluniadwy Coleman (gyda thanwydd).
  4. Ar 24 Fedi 2005, aeth i Galifornia, a chyfnewid y stôf ar gyfer generadur Honda.
  5. Ar 16 Tachwedd 2005, teithiodd i Maspeth, Queens a chyfnewid y generadur ar gyfer “parti gwib”: ceg wag, IOU ar gyfer llenwi’r ceg gyda chwrw o'i ddewis, ac arwydd neon Budweiser. Hwn oedd ei ail ymgais i wneud y cyfnewidiad; y tro gyntaf cafodd ei generedaur ei atafaelu dros dro gan Adran Dân Dinas Efrog Newydd .
  6. Ar 8 Rhagfyr 2005, fe gyfnewidiodd y "parti gwib" i'r digrifwr a phersonoliaeth radio o Québec Michel Barrette, ar gyfer cerbyd eira Ski-Doo.
  7. O fewn wythnos i hynny, fe gyfnewidodd y cerbyd eira ar gyfer taith i ddau berson i Yahk, British Columbia, a drefnwyd ar gyfer mis Chwefror 2006.
  8. Ar neu o gwmpas 7 Ionawr 2006, fe cyfnewidiodd yr ail le ar daith Yahk am 'box truck'.
  9. Ar neu o gwmpas 22 Chwefror 2006, fe gyfnewidiodd y 'box truck' ar gyfer contract recordio gyda Metalworks yn Mississauga, Ontario.
  10. Ar neu o gwmpas 11 Ebrill 2006, fe gyfnewidiodd y gontract i Jody Gnant am flwyddyn o rent yn Phoenix, Arizona.
  11. Ar neu o gwmpas 26 Ebrill 2006, fe gyfnewidiodd rent y flwyddyn yn Phoenix am un prynhawn gydag Alice Cooper.
  12. Ar neu o gwmpas 26 Mai 2006, fe gyfnewidiodd y prynhawn gyda Cooper ar gyfer glôb eira modur KISS .
  13. Ar neu o gwmpas 2 Mehefin 2006, fe gyfnewididd y glôb eira i Corbin Bernsen am rôl yn y ffilm Donna on Demand.
  14. Ar neu o gwmpas 5 Gorffennaf 2006, fe gyfnewidiodd y rôl yn y ffilm ar gyfer ffermdy dwy stori yn Kipling, Saskatchewan.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "From paper-clip to house, in 14 trades – Canada – CBC News". Cbc.ca. July 7, 2006. Cyrchwyd April 20, 2013.
  2. 2.0 2.1 "Man turns paper clip into house". BBC News. July 11, 2006.