Un Llais Cymru
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | Ebrill 2004 |
Pencadlys | Cymru |
Un Llais Cymru (Saesneg: One Voice Wales) yw'r corff sy'n cynrychioli buddiannau cynghorau cymuned a thref Cymru. Cafodd ei ffurfio ym mis Ebrill 2004 i fod yn "Llais Cynghorau Cymuned a Thref Cymru".
Mae'n gweithio ar lefel cenedlaethol trwy gynrychioli'r cynghorau gerbron Llywodraeth Cymru a chyrff cenedlaethol eraill. Ar lefel ranbarthol ceir tri swyddog datblygu ar gyfer Gogledd, Canolbarth a De Cymru. Yn lleol ceir rhwydwaith o bwyllgorau ardal.