Twnnel y Rhondda

Oddi ar Wicipedia
Twnnel y Rhondda
Mathtwnnel rheilffordd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynfi and Croeserw, Treherbert Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.668°N 3.588°W Edit this on Wikidata
Map
Gorsaf Blaengwynfi a’r Twnnel

Twnnel[1] rheilffordd a oedd yn cysylltu Cwm Rhondda a Chwm Afan yn ne Cymru oedd Twnnel y Rhondda. Mae’r twnnel yn 3,443 llath (3,148 medr) o hyd; dim ond dau dwnnel rheilffordd arall yng Nghymru sy'n hirach na hynny, sef Twnnel Ffestiniog sy'n 3,726 llath (3,407 medr) a Thwnnel Hafren sy'n 7,012 llath (7,668 medr). Mae gan y twnnel siafft awyriad 58 troedfedd o hyd tua 105 llath o’i ben gorllewinol, ac mae'r twnnel bron 1,000 o droedfeddi o dan y ddaear ar ei bwynt dyfnaf. Roedd gan y twnnel un trac, a oedd yn rhannu'n drac dwbl wrth ddod allan o'r ddau ben.

Roedd y lein yn cysylltu'r Rhondda a'r porthladd ym Mae Abertawe. Adeiladwyd y twnnel gan Reilffordd y Rhondda a Bae Abertawe, a'i ddylunio gan y peiriannydd Sydney William Yockney. Cychwynnodd y gwaith o'i adeiladu ym Mehefin 1885, a hynny gan ddechrau o'r ddau ben, sef Blaencwm yng Nghwm Rhondda a Blaengwynfi yng Nghwm Afan. Roedd y cynnydd yn foddhaol ar y dechrau, ond dechreuodd yr amserlen lithro oherwydd prinder gweithwyr a diferiad dŵr. Bu gwelliant ar ôl trosglwyddo'r cyfrifoldeb am y gwaith o'r contractor cyntaf, William Jones, i Messrs Lucas & Aird, a chwblhawyd y gwaith ar 2 Gorffennaf 1890.  

O fewn ychydig ddegawdau i'w agor, daethpwyd o hyd i afluniad yn leinin y twnnel; credir mai'r holl weithgaredd cloddio yn yr ardal o gwmpas y twnnel oedd yn bennaf cyfrifol. Rhwng 1938 a 1953, gosodwyd tua 500 o asennau dur yn y twnnel gyda'r nod o ddatrys y broblem hon. Parhaodd y dirywiad, gan arwain at osod cyfyngiadau cyflymder i wrthweithio'r risg o daro darnau ar y trac. Yn 1969, gorchmynwyd cau twnnel dros dro am resymau yn ymwneud â diogelwch. Yn Rhagfyr 1970, penderfynodd y Weinyddiaeth Drafnidiaeth atal y gwasanaethau yn swyddogol a chau'r twnnel yn barhaol yn hytrach na thalu i'w atgyweirio. Yn 1980, llanwyd y mynedfeydd i'r twnnel i atal tresmaswyr rhag cael mynediad iddo.

Yn ystod y 2010au, cynhaliwyd arolwg o Dwnnel y Rhondda gyda'r bwriad o'i ailagor fel llwybr i feiciau.[2]   

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. [1] Geiriadur Prifysgol Cymru
  2. "Gwefan Cymdeithas Twnnel y Rhondda". www.rhonddatunnelsociety.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-08-04.