Tutanota
Gwedd
| Enghraifft o: | meddalwedd danfon ebyst, meddalwedd am ddim, email hosting service, gwefan |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 2011 |
| Statws hawlfraint | dan hawlfraint |
| Prif weithredwr | Matthias Pfau |
| Pencadlys | Hannover |
| Dosbarthydd | Google Play, App Store, F-Droid |
| Gwefan | https://tuta.com/ |
| Dynodwyr | |
| Quora | Tutanota |

Meddalwedd ffynhonnell-agored yw Tutanota sydd yn cynnig gwasanaeth e-bost. Datblygwyd ac a ddarperir y gwasanaeth yn 2011 gan gwmni Almaenig, sef Tutao GmbH. Mae’r enw Tutanota yn deillio o'r Lladin ac yn cynnwys y geiriau "tuta" a "nota", sy'n golygu "neges diogel”.
Mae defnyddwyr Tutanota yn gallu amgryptio ebyst ar gyfer negeseuon e-bost o ben-i-ben fel bod neb arall yn gallu rhyng-gipio’r neges.
Mae apps Tutanota rhad ac am ddim ar gael ar gyfer iOS a Android. Mae defnyddwyr cyfrifion premiwm yn gallu defnyddio parthau eu hunain gyda Tutanota.
Ar hyn o bryd, mae Tutanota yn cefnogi'r porwyr canlynol: Firefox, Opera, Chrome, Safari (o fersiwn 6.1 ymlaen), Internet Explorer (fersiwn 10) a Blackberry 10.