Tudno FM

Oddi ar Wicipedia
Tudno FM
Ardal DdarlleduLlandudno
ArwyddairEich Llais - Eich Miwsig
Dyddiad Cychwyn1 Mawrth 2008
PencadlysLlandudno
Perchennog Radio Cymunedol Llandudno
Gwefanwww.tudnofm.co.uk

Gorsaf radio yw Tudno FM sy'n gwasanaethu ardal Llandudno ym Mwrdeistref Sirol Conwy, Cymru. Daw'r enw o enw Sant Tudno (6g), nawddsant Llandudno. Mae'n radio cymunedol di-elw, di-fasnachol sy'n cael ei redeg gan Radio Cymunedol Llandudno sy'n darlledu bob dydd o'r wythnos, yn Saesneg yn bennaf ond gyda rhaglenni Cymraeg hefyd.

Cerddoriaeth a rhaglenni siarad sy'n llenwi trwch yr amserlen a cheir newyddion lleol a chenedlaethol, adroddion chwaraeon a cherddoriaeth arbenigol.

Lawnswyd Tudno FM am 10yb ar ddydd Sadwrn 1 Mawrth 2008 gyda darllediad RSL 28 diwrnod RSL a lawnswyd y gwasanaeth llawn ar 12 Gorffennaf 2008.

Mae'r orsaf yn darlledu o'i stiwdios, swyddfeydd a throsglwyddydd FM yng Nghanolfan Gymunedol Tŷ Hapus, Ffordd Penrhyn, Llandudno, gyda thrwydded i ddarlledu ar FM dros ardal o 5 km oddi amgylch. Ar wahân i fwletinau newyddion genedlaethol gan Sky News Radio yn Llundain, cynhyrchir y cyfan o gynnyrch Tudno FM yn lleol.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]