Tsieceg

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Tsiec)
Tsieceg (čeština)
Siaredir yn: Tsiecia,
fel iaith leiafrifol yn Unol Daleithiau America, Canada, Awstria, Yr Almaen, Croatia a'r Wcráin
Parth: Dwyrain Ewrop
Cyfanswm o siaradwyr: 12 miliwn
Safle yn ôl nifer siaradwyr: 66
Achrestr ieithyddol: Indo-Ewropeaidd
 Balto-Slafig
  Slafig Gorllewinol
   Tsieceg-Slofaceg
    Tseiceg
Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn: Tsiecia,
Yr Undeb Ewropeaidd
Rheolir gan: Athrofa'r Iaith Tsieceg
Codau iaith
ISO 639-1 cs
ISO 639-2 cze
ISO 639-3 ces
Gweler hefyd: IaithRhestr ieithoedd

Iaith Slafig Orllewinol sy'n iaith frodorol Tsiecia yw Tsieceg a gaiff ei siarad ledled y byd. Galwyd yr hen Tsieceg yn Fohemeg hyd at y 19g. Mae'n hynod o debyg i'r Slofaceg ac i raddau llai i ieithoedd Slafeg eraill.

Statws swyddogol[golygu | golygu cod]

Caiff y Tsieceg ei siarad gan bron i bawb o drigolion Tsiecia a chaiff ei defnyddio mewn dogfennau llysoedd barn ac awdurdodau'r wladwriaeth, gan gynnwys awdurdodau cyllid ac arian. Caiff hefyd ei defnyddio mewn achosion swyddogol yn Slofacia; yn yr un modd caniateir defnyddio'r Slofaceg oddi fewn i awdurdodau ariannol Tsiecia. Mae yma gryn blethu rhwng y ddwy wladwriaeth o ran ieithoedd - sy'n deillio'n ôl i'r hen Tsiecoslofacia a chyn hynny. Mae trigolion y ddwy wladwriaeth yn deall iaith ei gilydd.

Yr enw[golygu | golygu cod]

Mae'r gair čeština "Tsiec" (neu "Czech") yn tarddu o hen lwyth Slafig o'r un enw (Čech, lluosog Češi; hen ffurf: Čechové) a arferai fyw yng ngahanol Bohemia ac a oedd yn gyfrifol am uno ei chymdogion Slafaidd ac Almaenig yn nheyrnasiad y brenhinllyn (Přemyslovci). Yn ôl rhai, mae'n tarddu o berson o'r enw Čech, a fu'n gyfrifol am symud y llwyth i'r tiroedd presennol. Daw'r gair Bohemia o lwyth Celtaidd y Boii a wladychai'r rhan hon o Ewrop cyn hyn - ers y 4g CC. Benthyciwyd y sillafiad Saesneg ("Czeck") o'r Pwyleg.

Chwiliwch am Tsieceg
yn Wiciadur.
Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.