Trystan Gravelle
Trystan Gravelle | |
---|---|
Ganwyd | 1981 Trimsaran |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor ffilm, actor teledu |
Taldra | 1.85 metr |
Actor theatr, ffilm-a-theledu o Gymru yw Trystan Gravelle (ganwyd 1981).[1]
Bywyd a gyrfa
[golygu | golygu cod]Ganwyd Gravelle ym mhentre Trimsaran yn Sir Gaerfyrddin.[2] Aeth i Ysgol Gyfun Y Strade. Roedd yn aelod o Theatr Ieuenctid Llanelli rhwng 1997 a 1999 cyn mynd yn fyfyriwr yn y Royal Academy of Dramatic Art.[2]
Ar ôl graddio o RADA, ymunodd Gravelle a'r Royal Shakespeare Company.[3]
Yn 2011 fe ymddangosodd gyferbyn Rhys Ifans a Vanessa Redgrave yn y ffilm Anonymous, oedd yn herio awduraeth dramau Shakespeare, yn chwarae Christopher Marlowe.[4] Methodd Gravelle fynd i ddangosiad cyntaf y ffilm yn Llundain oherwydd ei fod yn serennu yng nghynhyrchiad Mike Bartlett o 13 yn y National Theatre.[4]
Yn 2012 fe ymunodd a prif gast y ddrama gyfnod Mr Selfridge ar ITV fel Victor Colleano, dirprwy reolwr bwyty'r siop adrannol.[5] Yn haf 2012 fe'i henwyd fel un o 'Sêr Yfory' gan Screen International.[3] Gweithiodd Gravelle ar Mr Selfridge rhwng Ebrill a Hydref 2012,[5] ac fe ddangoswyd am y tro cyntaf yng ngwledydd Prydain yn Ionawr 2013.[6]
Ffilmyddiaeth detholedig
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
2011 | 13 | John | Theatr |
Anonymous | Christopher Marlowe | Ffilm nodwedd | |
2013 | One Chance | Matthew | Ffilm nodwedd |
2013-2016 | Mr Selfridge | Victor Colleano | Cymeriad rheolaidd |
2016 | The Aliens | Fabien | Cymeriad rheolaidd |
2016 | National Treasure | Paul Finchley ifanc | Cymeriad rheolaidd |
2017 | Gap Year | Eugene | Pennod 1 |
2018 | The Terror | Henry Collins | Cymeriad rheolaidd |
2018 | A Discovery of Witches | Baldwin Montclair | Cymeriad rheolaidd |
2019 | Baptiste | Greg | Cymeriad rheolaidd |
2019 | Britannia | Derog | Cyfres deledu |
2020 | Quiz | Adrian Pollock | Cyfres fer |
2022 | The Lord of the Rings: The Rings of Power | Pharazôn[7] | Cyfres deledu |
TBA | Great Expectations | Compeyson | Cyfres fer |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ IMDb: Trystan Gravelle Biography Linked 2014-03-06
- ↑ 2.0 2.1 "Actor Trystan a 'star in making'". Llanelli Star. 9 November 2011. Cyrchwyd 16 Ionawr 2013. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ 3.0 3.1 Halligan, Fionnualla (Mehefin 2012). "Stars of Tomorrow 2012" (PDF). Screen Daily. Screen International. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-07-03. Cyrchwyd 16 Ionawr 2013. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ 4.0 4.1 Price, Karen (29 October 2011). "Welsh actor Trystan Gravelle in London stage world premiere and new film Anonymous". Western Mail. Cyrchwyd 16 Ionawr 2013. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ 5.0 5.1 Mainwaring, Rachel (12 Ionawr 2013). "Trystan Gravelle on playing Mr Selfridge's ladies man Victor". Western Mail. Cyrchwyd 16 Ionawr 2013. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ Graham, Alison. "Mr Selfridge - Series 1 - Episode 1". Radio Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 13 Ionawr 2013. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ Coggan, Devan. "Welcome to Númenor: Get an exclusive look at The Lord of the Rings: The Rings of Power". Entertainment Weekly (yn Saesneg). Meredith Corporation. Cyrchwyd 14 Gorffennaf 2022.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Trystan Gravelle ar wefan yr Internet Movie Database