Troellig yr ŷd
| Spergula arvensis | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau craidd |
| Urdd: | Caryophyllales |
| Teulu: | Caryophyllaceae |
| Genws: | Spergula |
| Rhywogaeth: | S. arvensis |
| Enw deuenwol | |
| Spergula arvensis Carl Linnaeus | |
Deugotyledon ac un o deulu'r 'pincs' fel y'u gelwir ar lafar gwlad yw Troellig yr ŷd sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Caryophyllaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Spergula arvensis a'r enw Saesneg yw Corn spurrey.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Troellig yr ŷd, Cedor y Wrach, Chwyn yr ŷd, Llindro, Troellig, Troellig Mwyaf, Ydwyn.
Caiff ei dyfu'n aml mewn gerddi oherwydd lliw'r planhigyn hwn. Mae'r dail wedi'i gosod gyferbyn a'i gilydd.
Ecoleg a chadwraeth
[golygu | golygu cod]Bu i arolygon dros yr hanner canrif ddiwethaf o fflora y DU ddangos bod 17 allan o’r 25 rhywogaeth sy’n dangos y gostyngiad tymor-hir mwyaf yn rhai sy’n nodweddiadol neu yn gyfyngedig i gynefinoedd tir ȃr. Mae rhain yn cynnwys un neu ddwy o rywogaethau sy’n dal yn lleol-gyffredin yng Nghymru, fel Troellig yr ŷd] (Spergula arvensis) a Taglys yr ŷd (= y Glymog ddu Fallopia convolvulus).
Mae Cloc y dyn tlawd (Llysiau'r Cryman Anagallis arvensis) a Fflamgoed fach yr ŷd (= Corlaethlys[2]) er enghraifft yn tyfu ym mhen talar na chafodd ei chwistrellu, ar fferm ger Flemingston ym Mro Morgannwg.
Mae planhigion eraill ar y rhestr mewn peryg difrifol (PD) neu mewn peryg (P) o ddifodiant yng Nghymru, e.e., Crafanc yr ŷd (Ranunculus arvensis), Crib Gwener (Scandix pecten-veneris) a Dinodd Blynyddol (Scleranthus annuus). Mae y ‘rhestr goch’ o blanhigion sydd mewn peryg yng Nghymru hefyd yn cynnwys Gwylaeth-yr-oen llyfn (Valerianella rimosa) (PD) a Gludlys amryliw (Silene gallica) (P). Bellach mae hydnoed planhigion a ystyrid yn lled gyffredin a niferus ar un adeg, fel y Pabi coch cyffredin (Papaver rhoeas) a Melyn yr ŷd (Chrysanthemum segetum), yn llawer iawn llai amlwg yn y tirlun Cymreig erbyn hyn. Ym mysg y cnydau sydd brinaf o ran eu planhigion tir ȃr mae tatws, India corn a haidd. Bydd y rhain fel arfer erbyn hyn yn cael eu chwistrellu’n drwm ȃ chwynladdwyr a phlaladdwyr eraill, sy’n golygu na rodda y cnydau hyn gyfle i’r planhigion na’r creaduriaid gwyllt eraill a ddisgwylir eu gweld ar dir ȃr yng Nghymru[3]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
- ↑ https://llennatur.cymru/Y-Bywiadur#Euphorbia%20exigua>Euphorbia exigua
- ↑ Hurford, C (2025) Fferm a Thyddyn, rhif 76 (2025), tud. 6-9
