Trinny Woodall

Oddi ar Wicipedia
Trinny Woodall
Ganwyd8 Chwefror 1964 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Queen's Gate School Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, cyflwynydd teledu, steilydd dillas, ysgrifennwr, dylunydd ffasiwn Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://trinnylondon.com/uk/ Edit this on Wikidata

Cyflwynydd o Loegr yw Sarah-Jane "Trinny" Woodall[1] (ganwyd 8 Chwefror 1964, Marylebone, Llundain). Mae hefyd yn ddylunwr ffasiwn ac yn awdures. Bu'n cyflwyno'r rhaglen What Not to Wear gyda Susannah Constantine ar BBC One ond nawr mae hi’n cyflwyno Trinny and Susannah Undress ar ITV1.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Magwyd Woodall mewn teulu cyfoethog ac addysgwyd hi mewn ysgolion preifat. Ar ôl brwydr yn erbyn alcohol a cyffuriau a barhaodd deng mlynedd a gweithio yn marchnata, cyfarfu â Susannah Constantine yn 1994. Ymunodd y ddwy i ysgrifennu colofn ffasiwn wythnosol gyda'i gilydd ar gyfer The Telegraph. Arweiniodd hyn at sefydlu eu busnes cyngor-ffasiwn ar y wê, a chyhoeddi eu llyfr cyngor-ffasiwn cyntaf; roedd y ddau brosiect yn drychineb.[angen ffynhonnell]

Commisiynwyd hwy gan y BBC i gyflwyno What Not to Wear yn 2001. Y flwyddyn ganlynol, rhyddhaodd Woodall a Constantine eu hail lyfr, What Not to Wear, a enillodd iddynt wobr yn y British Book Awards[2] ac mae wedi gwerthu dros 670,000 copi.[3] Aeth Woodall ymlaen i gyd-ysgrifennu nifer o lyfrau cyngor-ffasiwn gyda Constantine, ac mae nifer wedi dod yn werthwyr gorau yn y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau, gan werthu dros 2.5 miliwn copi ar draws y byd.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Acne, alcohol … and non-stop sex, Lynda Lee-Potter Daily Mail
  2. "British Book Awards". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-04-05. Cyrchwyd 2007-11-04.
  3. "Parkinson". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-01-06. Cyrchwyd 2007-11-04.
  4. Trinny and Susannah Have Launched the Official TrinnyAndSusannah.com Website

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Baner LloegrEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.