Neidio i'r cynnwys

Tribiwnlys y Gymraeg

Oddi ar Wicipedia

Corff statudol, annibynnol yw Tribiwnlys y Gymraeg sy'n delio gydag apeliadau yn erbyn Comisiynydd y Gymraeg mewn perthynas â Safonau'r Gymraeg. Sefydlwyd y tribiwnlys yn 2015 dan adran 120 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae'r Tribiwnlys yn gorff annibynnol a'i aelodaeth yn cynnwys unigolion sy'n gyfreithiol gymwys yn ogystal â rhai aelodau lleyg. Caiff ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru.

Llywydd cyntaf a chyfredol y Tribiwnlys yw Keith Bush CF[1]. Cafodd Llywydd ac Aelodau’r Tribiwnlys eu penodi trwy broses a luniwyd er mwyn sicrhau eu bod yn annibynnol a’u bod yn gwneud penderfyniadau gwrthrychol, yn unol â'r gyfraith. Gellid apelio yn erbyn penderfyniadau'r Tribiwnlys, ar bwynt cyfreithiol, i'r Uchel Lys.

Prif waith y Tribiwnlys yw:

  1. Herio Safonau a osodwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg
  2. Apelio yn erbyn canlyniad ymchwiliad gan y Comisiynydd
  3. Adolygu penderfyniad gan y Comisiynydd i beidio ag ymchwilio i gŵyn

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Tribiwnlys y Gymraeg. "Tribiwnlys y Gymraeg - Amdanom". Cyrchwyd 22ain o Fai 2017. Check date values in: |accessdate= (help)

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]