Treblinka
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Treblinka (gwersyll difa))
Enghraifft o'r canlynol | gwersyll difa, gwersyll crynhoi Natsïaidd |
---|---|
Daeth i ben | 1943 |
Lladdwyd | 800,000 ±100000 |
Gweithredwr | SS-Totenkopfverbände |
Enw brodorol | SS-Sonderkommando Treblinka |
Rhanbarth | Kosów Lacki |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Treblinka yw'r enw a roddir ar ddau wersyll crynhoi a ddefnyddid gan lywodraeth Natsïaidd yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Safai'r gwersylloedd gerllaw pentref Treblinka yng Ngwlad Pwyl. Roedd Treblinka I yn wersyll gwaith, a Treblinka II yn wersyll difa. Lladdwyd tua 900,000 o bobl yma, sy'n ei roi yn ail ar ôl Auschwitz o ran y nifer o bobl a laddwyd.
Adeiladwyd Treblibka 1 yn haf 1941, gyda Phwyliaid ac Iddewon fel carcharorion. Dechreuwyd adeiladu Treblinka II ym mis Mai 1942, ac ym mis Awst gwnaed Franz Stangl yn gyfrifol am y gwersyll. Daeth y lladd yn Treblinka II i ben yn Awst 1943, a chwalwyd y gwersyll, gan ail-ffurfio'r tir i geisio cuddio ei fodolaeth. Chwalwyd Treblinka I yn 1944 wrth i'r Fyddin Goch agosáu.