Tramwyfa Discovery

Oddi ar Wicipedia

Mae Tramwyfa Discovery yn gulfor rhwng Ynys Vancouver a’r Ynysoedd Discovery i’r gogledd o Gulfor Georgia. Ynys Quadra ac Ynys Sonora yw’r ynysoedd i’r dwyrain o’r dramwyfa. Mae Culfor Johnstone i’r gogledd.

Enwyd y dramwyfa yn 1847 gan Gapten Henry Kellett ar ôl llong George Vancouver, HMS Discovery ar eu taith o gwmpas Ynys Vancouver.[1].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]