Tor Nørretranders

Oddi ar Wicipedia
Tor Nørretranders
Ganwyd20 Mehefin 1955 Edit this on Wikidata
Copenhagen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBrenhiniaeth Denmarc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Roskilde Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, science journalist, cofiannydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Academi Frenhinol y Celfyddydau Cain Denmarc
  • DR
  • Dagbladet Information
  • Department of Management, Politics and Philosophy
  • Prifysgol Technegol Denmarc
  • Risø DTU National Laboratory for Sustainable Energy
  • Weekendavisen Edit this on Wikidata
TadBjarne Nørretranders Edit this on Wikidata
Gwobr/auPublicistprisen, Den faglitterære pris Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.tor.dk/ Edit this on Wikidata

Awdur gwyddoniaeth boblogaidd Danaidd ydyw Tor Nørretranders (ganwyd 20 Mehefin 1955, yn København).

Agwedd tuag at addysg[golygu | golygu cod]

Mynegodd ei farn ar haniaeth addysg yn ei lyfr Maerk Verden (1991). Mae Tør Nørretranders yn dweud pan ydym yn siarad ein bod yn ymwybodol o’r geiriau a ddefnyddir ond fod y rhan fwyaf o’r ymgom yn digwydd y tu fewn i’n ymennydd. Mewn gair, fod ein synhwyrau i gyd ar waith ac nid yn unig ein clustiau. Defnyddia hanes dyn dall a gafodd lawdriniaeth i weld eto i egluro ei ddamcaniaeth. Roedd y dyn wedi bod yn ddall am 52 mlynedd gyntaf ei oes, ac ar ôl y llawdriniaeth, er ei fod yn gallu gweld, roedd yn rhaid iddo gyffwrdd pethau yn gyntaf cyn eu canfod yn iawn. Roedd yn defnyddio ei gof o deimlo pethau i weld pethau gyda'i lygaid. Y wers i ddarlithwyr yw pwysigrwydd cyffwrdd pethau, gan fod yna dri math o ddysgu i gael:-

  • Dysgu Ffurfiol - sef dysgu gwybodaeth a chysyniadau damcaniaethol
  • Dysgu Greddfol – sef dysgu wrth ddeall fod pethau yn gwneud synnwyr
  • Dysgu drwy wneud - sef dysgu drwy gyffwrdd, arbrofi ymarferol

Rydym yn dysgu yn ôl Tør Nørretranders nid drwy ein hymwybyddiaeth yn unig ond drwy ganfod isymwybodol pan rydym yn gwneud penderfyniadau i dderbyn neu wrthod y wybodaeth sy’n dod drwy ein synhwyrau i gyd yn reddfol.

Mae Tør Nørretranders yn rhoi enghraifft o hyn drwy sôn am y modd y byddem yn disgrifio wyneb Marilyn Monroe. Y geiriau sy’n dod i’r meddwl yw merch gwallt golau, yn gwenu efallai. Ond nid yw hyn y disgrifiad da. Gallwch chi wneud yn well efallai? Ond ni fyddai’r disgrifiad uchod yn ddigon. Eto byddai dangos hyd yn oed darn o lun ohoni yn llawn digon i bobl i’w hadnabod. Y gwir yw pan ddefnyddiwn eiriau yn unig rydym yn ddibynnol fod gan eraill hefyd wybodaeth ddealledig i lenwi’r tyllau yn ein disgrifiadau. Cymrwn fod hi’n ddealledig fod gan bawb fwy o wybodaeth nag sy’n bosib iddynt ddisgrifio i ni. Yr unig broblem sy’n gallu codi yw pan mae'r hyn sy’n ddealledig i ni ddim yn ddealledig yn yr un modd yn union i berson arall.

Felly fel darlithwyr dim ond hyn a hyn o wybodaeth y gallwn ni ei drosglwyddo yn uniongyrchol drwy eiriau i’r myfyrwyr, mae’r gweddill yn gorfod bod yn ddealledig. Yr unig ffordd i ddysgu crefft neu sgìl i berson arall yw nid drwy ei ddisgrifio yn fanwl ond drwy ei wneud. Fel y dywed Tør Nørretranders yr unig ffordd gall garddwyr gael “bysedd gwyrdd” yw drwy gael ei bysedd yn fudr!” Mae hyn y pwysleisio’r angen i ni ddysgu drwy wneud.