Tor Nørretranders
Tor Nørretranders | |
---|---|
Ganwyd | 20 Mehefin 1955 Copenhagen |
Dinasyddiaeth | Brenhiniaeth Denmarc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, science journalist, cofiannydd |
Cyflogwr | |
Tad | Bjarne Nørretranders |
Gwobr/au | Publicistprisen, Den faglitterære pris |
Gwefan | http://www.tor.dk/ |
Awdur gwyddoniaeth boblogaidd o Ddenmarc ydyw Tor Nørretranders (ganwyd 20 Mehefin 1955, yn København).
Agwedd tuag at addysg
[golygu | golygu cod]Mynegodd ei farn ar haniaeth addysg yn ei lyfr Maerk Verden (1991). Mae Tør Nørretranders yn dweud pan ydym yn siarad ein bod yn ymwybodol o’r geiriau a ddefnyddir ond fod y rhan fwyaf o’r ymgom yn digwydd y tu fewn i’n ymennydd. Mewn gair, fod ein synhwyrau i gyd ar waith ac nid yn unig ein clustiau. Defnyddia hanes dyn dall a gafodd lawdriniaeth i weld eto i egluro ei ddamcaniaeth. Roedd y dyn wedi bod yn ddall am 52 mlynedd gyntaf ei oes, ac ar ôl y llawdriniaeth, er ei fod yn gallu gweld, roedd yn rhaid iddo gyffwrdd pethau yn gyntaf cyn eu canfod yn iawn. Roedd yn defnyddio ei gof o deimlo pethau i weld pethau gyda'i lygaid. Y wers i ddarlithwyr yw pwysigrwydd cyffwrdd pethau, gan fod yna dri math o ddysgu i gael:-
- Dysgu Ffurfiol - sef dysgu gwybodaeth a chysyniadau damcaniaethol
- Dysgu Greddfol – sef dysgu wrth ddeall fod pethau yn gwneud synnwyr
- Dysgu drwy wneud - sef dysgu drwy gyffwrdd, arbrofi ymarferol
Rydym yn dysgu yn ôl Tør Nørretranders nid drwy ein hymwybyddiaeth yn unig ond drwy ganfod isymwybodol pan rydym yn gwneud penderfyniadau i dderbyn neu wrthod y wybodaeth sy’n dod drwy ein synhwyrau i gyd yn reddfol.
Mae Tør Nørretranders yn rhoi enghraifft o hyn drwy sôn am y modd y byddem yn disgrifio wyneb Marilyn Monroe. Y geiriau sy’n dod i’r meddwl yw merch gwallt golau, yn gwenu efallai. Ond nid yw hyn y disgrifiad da. Gallwch chi wneud yn well efallai? Ond ni fyddai’r disgrifiad uchod yn ddigon. Eto byddai dangos hyd yn oed darn o lun ohoni yn llawn digon i bobl i’w hadnabod. Y gwir yw pan ddefnyddiwn eiriau yn unig rydym yn ddibynnol fod gan eraill hefyd wybodaeth ddealledig i lenwi’r tyllau yn ein disgrifiadau. Cymrwn fod hi’n ddealledig fod gan bawb fwy o wybodaeth nag sy’n bosib iddynt ddisgrifio i ni. Yr unig broblem sy’n gallu codi yw pan mae'r hyn sy’n ddealledig i ni ddim yn ddealledig yn yr un modd yn union i berson arall.
Felly fel darlithwyr dim ond hyn a hyn o wybodaeth y gallwn ni ei drosglwyddo yn uniongyrchol drwy eiriau i’r myfyrwyr, mae’r gweddill yn gorfod bod yn ddealledig. Yr unig ffordd i ddysgu crefft neu sgìl i berson arall yw nid drwy ei ddisgrifio yn fanwl ond drwy ei wneud. Fel y dywed Tør Nørretranders yr unig ffordd gall garddwyr gael “bysedd gwyrdd” yw drwy gael ei bysedd yn fudr!” Mae hyn y pwysleisio’r angen i ni ddysgu drwy wneud.