Top Gear

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Top Gear
REALTopGearLogo.png
Genre Moduro
Serennu Jeremy Clarkson
Richard Hammond
James May (2003 - Presennol)
The Stig
Jason Dawe (2002)
Gwlad/gwladwriaeth Deyrnas Unedig
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 21
Nifer penodau 161 a 9 rhaglen arbennig
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 60 munud ar gyfartaledd
Darllediad
Sianel wreiddiol BBC Two
Rhediad cyntaf yn 1977-2001
Darllediad gwreiddiol 2002 - Presennol
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol

Cyfres deledu'r BBC am gerbydau modur, ceir yn benodol, ydy Top Gear, a ddarlledwyd yn wreiddiol ar BBC Dau. Dechreuodd y gyfres ym 1977 fel rhaglen gylchgrawn gonfensiynnol am foduro. Dros amser, ac yn enwedig ers i'r rhaglen gael ei hail-lansio yn 2002, mae ganddi arddull unigryw, ddoniol. Ar hyn o bryd, cyflwynir y rhaglen gan Jeremy Clarkson, Richard Hammond a James May, ond mae hefyd yn cynnwys gyrrwr prawf a elwir "The Stig". Amcangyfrifir fod gan y rhaglen 350 miliwn o wylwyr yn fyd-eang. Ym Mehefin 2015 cadarnhawyd mai Chris Evans fydd y cyflwynydd newydd.

Hon yw'r rhaglen geir mwyaf poblogaidd drwy'r byd.[1] Yn aml, mae'n torri tir newydd ac yn herio'r drefn 'awleidyddol' arferol o chwaeth.[2] Caiff ei ffilmio ym Maesawyr Dunsfold, Waverley, Surrey.

Ers 2007 mae nifer y gwylwyr oddeutu 6 - 7 miliwn.

Car y Flwyddyn[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ddiwedd pob tymor, cyflwynir Gwobr Car y Flwyddyn.

Blwyddyn Car
2002 Land Rover Range Rover
2003 Rolls-Royce Phantom
2004 Volkswagen Golf GTI
2005 Bugatti Veyron
2006 Lamborghini Gallardo Spyder
2007 Subaru Legacy Outback/Ford Mondeo

(cyfartal)

2008 Caterham Seven R500
2009 Lamborghini Gallardo LP550-2 Valentino Balboni
2010 Citroën DS3
2011 Range Rover Evoque
2012 Toyota GT86
2013 Ford Fiesta ST
2014 BMW i8

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Sir Bruce Forsyth becomes record breaker". BBC News Online. 7 September 2012. http://www.bbc.co.uk/news/entertainment-arts-19516385. Adalwyd 7 September 2012. "motoring show Top Gear, is also recognised in the 2013 volume. The BBC Two fixture holds the record for the world's most widely-watched factual TV programme, having now been broadcast in 212 territories."
  2. "Top Gear India special criticised for 'toilet humour'". Bbc.co.uk. 12 January 2012. http://www.bbc.co.uk/news/entertainment-arts-16526687. Adalwyd 11 Mawrth 2013.