Range Rover

Oddi ar Wicipedia
Range Rover
Enghraifft o'r canlynolcyfres o foduron Edit this on Wikidata
Mathsport utility vehicle Edit this on Wikidata
Yn cynnwysLand Rover Range Rover (1st generation), Land Rover Range Rover (P38A), Land Rover Range Rover (L322), Land Rover Range Rover (L405) Edit this on Wikidata
GwneuthurwrLand Rover Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.landrover.com/vehicles/range-rover/index.html Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cerbyd defnyddiol math SUV (Sport utility vehicle ) yw Range Rover a gynhyrchir gan gwmni Land Rover. Dyma brif gerbyd y cwmni. Perchennog Land Rover yw Tata Motors, cwmni rhyngwladol sydd a'i bencadlys yn India. Lansiwyd y Range Rover cyntaf yn 1970 ac yn 2016 roedd yn ei bedwaredd cenhedlaeth. Ceir sawl math hefyd gan gynnwys y Range Rover Evoque a'r Range Rover Sport.

Hanes[golygu | golygu cod]

Bu'r cwmni Rover Company (rhagflaenydd y marque Land Rover) yn arbrofi gyda model llawer mwy na'r un a ddaeth allan yn 1951 dan lygad barcud Gordon Bashford a chredwyd cerbyd arbrofol: y Rover P4 a oedd yn gerbyd gyriant 2-olwyn. Ond rhoddwyd y model yma ar y silff a chysgwyd ar y syniad am wyth mlynedd nes y dychwelodd Charles Spencer King a Bashford yn ôl at y prosiect hwn a chrewyd model newydd sbon.[1]

Yn 1967 crewyd y prototeip cyntaf (rhif cerbyd: SYE 157F), ac roedd siâp sgwâr amlwg yn gwbwl nodweddiadol o'r Range Rover hwnnw, ond fod y gril (neu'r gridyll) ar y tu blaen a'r goleuadau'n gwbwl wahanol. Gorffenwyd cynllunio'r Range Rover cyntaf yn 1969. Profwyd 27 o gerbydau arbrofol rhwng 1969 ac 1970.[2]

Cenhedlaeth 1
(1970–1996)
Cenhedlaeth 2
Cenhedlaeth 3
Cenhedlaeth 4
Range Rover "Classic"
Brasolwg
Cynhyrchwyd1970–1996
Adeiladwyd ynSolihull plant, Solihull, Lloegr
Enfield, Awstralia [3]
Corff a siasi
Math o gorff3-drws SUV
5-drws SUV
Car tebygLand Rover Discovery
Pweru a gyriant
Injan3.5 L V8 130 hp carbwradur
3.5 L V8 155 hp
3.9 L V8 182 hp
4.2 L V8 200 hp
2.4 L 112 hp VM turbodiesel
2.5 L 119 hp VM turbodiesel
2.5 L 111 hp 200TDi turbodiesel
2.5 L 111 hp 300TDi turbodiesel
Maint
Pellter rhwng echelau100.0 in (2,540 mm) (SWB)
108.0 in (2,743 mm) (LWB)
Hyd175 in (4,445 mm) (SWB)
183 in (4,648 mm) (LWB)
Lled70.1 in (1,781 mm)
Uchder70.9 in (1,801 mm) (1970–1980)
70.1 in (1,781 mm) (1980 ymlaen)
Range Rover (P38A)
Brasolwg
Cynhyrchwyd1994–2002
Corff a siasi
Math o gorff5-drws SUV
Pweru a gyriant
Injan4.0 L Rover V8
4.6 L Rover V8
2.5 L BMW M51 Turbodiesel I6
Trosglwyddiad4-cyflymder otomatig
5-cyflymder â llaw
Maint
Pellter rhwng echelau108.1 in (2,746 mm)
Hyd185.5 in (4,712 mm)
Lled74.4 in (1,890 mm)
Uchder71.6 in (1,819 mm)
Range Rover (L322)
Brasolwg
Cynhyrchwyd2002–2012
Corff a siasi
Math o gorff5-drws SUV
Pweru a gyriant
Injanpetrol engines:


4.2 L Jaguar AJ-V8 Supercharged (2006–2009)
4.4 L BMW M62 V8 (2002–2006)
4.4 L Jaguar AJ-V8 (2006–2009)
5.0 L Jaguar AJ-V8 Supercharged (2009–2012)
diesel engines:
3.0 L BMW M57 TD I6 (2002–2006)
3.6 L Ford Lion V8 TD (2007–2010)

4.4 L Ford TD V8 (2010–2012)
Trosglwyddiad8-cyflymder otomatig[4] (since 2010)
6-cyflymder otomatig (since 2006)
5-cyflymder otomatig (2002–2005)
Maint
Pellter rhwng echelau113.4 in (2,880 mm)
Hyd194.9 in (4,950 mm) (2002–2005)
195.7 in (4,971 mm) (since 2006)
195.9 in (4,976 mm)
Lled75.7 in (1,923 mm) (2002–2009)
76.1 in (1,933 mm) (since 2010)
Uchder73.3 in (1,862 mm) (2002–2005)
74.9 in (1,902 mm) (2006–2009)
73.9 in (1,877 mm) (since 2010)
Range Rover (L405)
Brasolwg
CynhyrchwydSince 2012[5]
Blwyddyn2013– presennol
Corff a siasi
Math o gorff5-drws full-size SUV
Pweru a gyriant
Injan3.0 L V6 diesel

4.4 L V8 diesel
3.0L V6 petrol

5.0 L V8 petrol[6]
Trosglwyddiad8-cyflymder otomatig
Maint
Pellter rhwng echelau2,922 mm (115.0 in)[6]
Hyd4,999 mm (196.8 in)[6]
Lled2,073 mm (81.6 in)[6]
Uchder1,835 mm (72.2 in)[6]

Mathau cyfredol[golygu | golygu cod]

Range Rover Sport[golygu | golygu cod]

Range Rover Sport
Range Rover Sport

Lansiwyd ffotograffau o'r Range Rover Sport, am y tro cyntaf ar 26 Tachwedd 2004, a gwelwyd y fersiwn derfynol am y tro cyntaf yn Sioe Gerbydau Gogledd America yn 2005. Mae wedi'i seilio ar y Discovery "L320" gyda'r tu allan a'r seddi wedi'i modelu ar y Range Rover; galwyd ef yn gyntaf yn Range Rover Sport "L319". Roedd yr echel yn llai na'r Discovery ac roedd y gist yn dal llai o lwyth. Roedd y pris yn nes at y Discovery na'r Land Rover. Gwerthwyd ef yn gyntaf yn 2006.

Range Rover Evoque[golygu | golygu cod]

Range Rover Evoque
Range Rover Evoque

Llithrodd y Range Rover Evoque allan drwy ddrws y ffatri am y tro cyntaf yng Ngorffennaf 2011. Mae gwreiddiau'r cerbyd yma yn y car cysyniadol, y Land Rover LRX, na werthwyd yn fasnachol, ac mae'n hynod o debyg iddo. Mae ar gael gyda thri neu bum-drws fel hatchback a cheir fersiwn gyriant blaen neu yriant 4-olwyn, 2-litr petrol turbocharged a dwy fersiwn injan 2.2-litr turbo-diesel.

Yn 2012 gwerthwyd fersiwn to agored, gyda 4 sedd ac adail-ôl a oedd yn llithro i'w lle.[7]

Range Rover Velar[golygu | golygu cod]

Y Velar ym Hydref 2017
Y Velar ym Hydref 2017

Dadorchuddiwyd y Velar ym Mawrth 2017, ac roedd ar werth am tua £65,000: fe'i targedwyd rhwng yr Evoque a'r Sport. Mae'n defnyddio'r un llwyfan a'r Jaguar F-Pace, a ddefnyddiwyd fel model ar gyfer y cynllun. Mae ymhlith y byraf o'r teulu, o ran taldra, gyda'r llinellau allanol yn llyfn a chwareus. Mae'r tu fewn yn hollol newydd, yn llawn technoleg electronig newydd, a bydd yn cael ei ail-greu ym mhob Range Rover a ddaw allan o'r ffatri o hyn ymlaen.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Maag, Christopher (3 Gorffennaf 2010). "Charles S. King, Range Rover Designer, Dies at 85". The New York Times. Cyrchwyd 23 Chwefror 2016.
  2. Shephard, Dave. "The History of the Range Rover Marque". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mawrth 2006. Cyrchwyd 30 Mawrth2016. Check date values in: |accessdate= (help)
  3. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw rovertrax
  4. "Range Rover: Birthday Child with new Transmission Technology". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Ionawr 2011. Cyrchwyd 24 Awst 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. "Range Rover Mk4". Auto Express. Retrieved 1 Ionawr 2013.
  6. 6.0 6.1 6.2 6.3 6.4 "Range_Specifications". Land Rover. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-01. Cyrchwyd 2016-11-20.
  7. Hardy, Sam (6 Mawrth 2012). "Range Rover Evoque Convertible". Auto Express. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2012.