Ton

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Tonnau Hydredol)
Ton
Mathosgiliad Edit this on Wikidata
Yn cynnwyston ardraws, ton arhydol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Patrwm sy'n teithio, o ronynnau neu feysydd ffisegol sy'n dirgrynu, yw ton, nid oes unrhyw mater yn cael ei symud namyn egni'r don sy'n cael ei drosglwyddo trwy'r mater, a gellir ddefnyddio tonnau i symud negeseuon o un lle i'r llall. Mae'n rhaid i lawer o donnau deithio trwy gyfrwng, megis tonnau sain, ond nid felly tonnau electromagnetig - sy'n gallu teithio trwy wagfa. Gellir rhannu ton yn ddau gategori sef ardraws neu arhydol.

Tonfedd ac osgliad ton

Priodweddau tonnau[golygu | golygu cod]

  • Gall tonnau cael eu hadlewyrchu. Rhai esiamplau o adlewyrchiad ton yw adlais sain, cyfarpar mesur dyfnder sonar ac unrhyw beth sydd ddim yn fynhonnell golau ac sy'n weladwy.
  • Gall tonnau cael eu plygu. Wrth i donnau arafu a chroesi ffin megis gwydryn maent yn newid cyfeiriad ac felly'n plygu.

Tonnau arhydol[golygu | golygu cod]

Ton hydredol neu arhydol

Mewn tonnau arhydol mae'r gronynnau'n symud yn ôl ac ymlaen ar hyd cyfeiriad teithio'r don. Gweler cyfres o gywasgiadau a thyniadau o fewn y don. Esiamplau o'r rhain yw tonnau sain a thonnau seismig cynradd (tonnau P).

Tonnau ardraws[golygu | golygu cod]

Ton ardraws yn teithio

Mewn tonnau ardraws, bydd y gronynnau'n symud yn ôl ac ymlaen mewn cyfeiriad sy'n normal i gyfeiriad y ton. Esiamplau o'r rhain yw tonnau dŵr a thonnau seismig eilradd (tonnau S). Mae'r tonnau electromagnetig yn donnau ardraws hefyd, ond nid mater sy'n trosgwyddo'r dirgryniadau ar gyfer y rhain ond meysydd trydanol a magnetig.

Mesur tonnau[golygu | golygu cod]

Mae nifer o unedau i'w mesur mewn ton:

  • Tonfedd () = Mesurir mewn metrau fel uned SI. Hyd un don gyfan yw tonfedd, ac fe'i mesurir o frig i frig neu o gafn i gafn.
  • Amledd (f) = Mesurir mewn Hertz (Hz), sef maint y dirgryniadau mae'r don yn ei wneud pob eiliad
  • Cyflymder (v) = Mesurir mewn metrau yr eiliad, dyma pa mor gyflym mae'r don yn symud.
  • Osgled (y) = Yn gyffredinol, maint y newid i'r newidyn sy'n osgiladu, a achoswyd gan y don – er enghraifft, y pellter uchaf mae gronyn yn cael ei symud o'i fan cychwyn.

Hafaliad[golygu | golygu cod]

Mae perthynas syml yn bodoli rhwng amledd, tonfedd a chyflymder ton:

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am ton
yn Wiciadur.