Osgled

Oddi ar Wicipedia
Osgled (Aο) a thonfedd (λ) wedi eu labelu ar sindon.

Ym mathemateg a ffiseg, pellter mwyaf osgiliad o'r cymedr neu'r canolbwynt, mewn cyfeiriad negatif neu positif, yw osgled.[1] Mesur ydyw o'r newid mewn ffwythiant cyfnodol, neu system dan fudiant cyfnodol, dros un cyfnod, er enghraifft dirgryniad, ton, siglad pendil, neu glorian sbring.[2] Mewn achos tonnau sain, y mwyaf yw'r osgled y cryfaf yw'r sain.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  osgled. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 7 Mawrth 2018.
  2. David Nelson, The Penguin Dictionary of Mathematics (Llundain: Penguin, 2008), t. 10.