Tomenni glo risg uchel yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
Tomenni glo risg uchel yng Nghymru

Yn dilyn tirlithriad tomen lo segur yn Tylorstown, Rhondda Cynon Taf yn Chwefror 2020, sefydlodd Llywodraeth Cymru a Llywodaeth y DU Dasglu Diogelwch Tomenni Glo ar y cyd er mwyn ymchwilio a chlustnodi tomenni glo risg uchel yng Nghymru. Nod y Tasglu, felly, oedd asesu statws presennol tomenni glo segur yng Nghymru. Roedd tirlithriad Tylorstown yn dilyn stormydd gaeafol gyda glawiad eithafol o ganlyniad i effeithiau newid hinsawdd. Gall y nifer o dirlithriadau tomennydd glo gynyddu dros y blynyddoedd nesaf, gan na sicrhawyd eu bod mewn cyflwr diogel yn y gorffennol, ac effaith newid hinsawdd.[1]

Mae rhaglen waith Llywodraeth Cymru yn cynnwys archwilio a chynnal a chadw tomenni glo. Categoreiddir tomenni glo segur o ran y risg i dirlithriadau ac maent yn nodi pa mor aml mae angen archwilio tomenni glo. Mae tomenni risg uwch yn y categori C neu D ac mae angen archwilio'r tomenni hyn yn fwy rheolaidd er mwyn asesu draenio a sefydlogrwydd. Ym Medi a Hydref 2021 galwodd nifer o Weinidogion Llywodraeth Cymru ar y Ceidwadwyr yn Llundain i Lywodraeth Lloegr ariannu'r gwaith i adennill ac adfer y tomenni glo segur yng Nghymru, ac amcangyfrifwyd y byd yn costio rhwng £500m i £600m dros y 15 mlynedd nesaf.[2]

Archwilio[golygu | golygu cod]

Mae'r Awdurdod Glo neu'r awdurdod lleol priodol yn archwilio pob tomen risg uwch. Bydd archwiliadau pellach yn cael eu cynnal yn rheolaidd er mwyn helpu i nodi unrhyw arwyddion bod tomen yn symud ac unrhyw waith cynnal a chadw sydd ei angen. Canlyniad yr archwiliad cynnar oedd mai'r Sir gyda'r nifer mwyaf o domenni glo oedd Rhondda Cynon Taf, gyda 75 tomen risg-uchel, gyda Merthyr Tydfil a Caerffili yn dilyn yn dynn wrth ei sodlau.[3] Nid yw'r rhestr o'r holl domenni dan risg ar gael yn gyhoeddus hyd yma (Hydref 2021).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Llywodraeth Cymru; adalwyd 27 Hydref 2021.
  2. www.bbc.co.uk; teitl: Coal tips: Areas of Wales with most higher-risk sites revealed; adalwyd 27 Hydref 2021.
  3. www.bbc.co.uk; teitl: Coal tips: Areas of Wales with most higher-risk sites revealed; adalwyd 27 Hydref 2021.