Tom of Finland
Tom of Finland | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Tom of Finland ![]() |
Ganwyd | Touko Valio Laaksonen ![]() 8 Mai 1920 ![]() Kaarina ![]() |
Bu farw | 7 Tachwedd 1991 ![]() o emffysema ysgyfeiniol ![]() Helsinki ![]() |
Man preswyl | Kaarina ![]() |
Dinasyddiaeth | y Ffindir ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, darlunydd, cartwnydd, drafftsmon ![]() |
Blodeuodd | 1979 ![]() |
Gwefan | http://tomoffinlandfoundation.org ![]() |
Darlunydd a oedd yn enwog am ei luniau rhywiol a ffetis oedd Touko Valio Laaksonen, a oedd yn fwy adnabyddus o dan ei ffugenw Tom of Finland (8 Mai 1920 – 7 Tachwedd 1991). Cafodd ddylanwad mawr ar ddiwylliant hoyw diwedd yr ugenifed ganrif. Cafodd ei ddisgrifio fel y "most influential creator of gay pornographic images" gan yr hanesydd diwylliannol Joseph W. Slade.[1]
Dros gyfnod o bedwar degawd, cynhyrchodd oddeutu 3500 o ddarluniadau, gyda'r mwyafrif ohonynt yn darlunio dynion gyda nodweddion rhywiol a oedd wedi'u gorbwysleisio gyda chyrff hynod gyhyrog. Pwysleisiodd y dillad tynn neu'r diffyg dillad y nodweddion hyn, ac yn aml dangoswyd siap y pidyn trwy'r trowsusau tynn. Yn aml dangosodd ei luniau dau neu fwy o ddynion naill ai cyn neu yn ystod gweithgarwch rhywiol.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Slade, Joseph W.: Pornography and Sexual Representation: A Reference Guide, Volume 2. T. 545–546. Greenwood Publishing Group, 2001. ISBN 0-313-27568-8