Tom Ellis (actor)
Tom Ellis | |
---|---|
Ganwyd | 17 Tachwedd 1978 Caerdydd |
Man preswyl | Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor teledu |
Adnabyddus am | Lucifer |
Priod | Meaghan Oppenheimer |
Actor o Gymru yw Tom Ellis (ganwyd 17 Tachwedd 1978)[1] sy'n adnabyddus am chwarae Dr. Oliver Cousins yn yr opera sebon EastEnders ar BBC One. Roedd yn chwarae Sam yng nghyfres gomedi Pulling a Gary yn y comedi sefyllfa Miranda, y ddau ar y BBC. Mae'n fwy adnabyddus i wylwyr yn yr Unol Daleithiau am ddau sioe deledu lle mae'n chwarae'r prif gymeriad yn Rush (USA Network) a Lucifer (Fox).
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Ellis yng Nghaerdydd, yn fab i Marilyn Jean (Hooper) a Christopher John Ellis.[1] Mae ei dad, chwaer a ewythr i gyd yn weinidogion gyda'r Bedyddwyr ac ei ewythr yw'r academydd Robert Ellis, sy'n bennaeth Coleg Regent's Park, Rhydychen, lle aeth ei dad i astudio.[2] Mynychodd Ellis Ysgol Uwchradd Storrs yn Sheffield ac roedd yn chwarae'r corn Ffrengig yng Ngherddorfa Iau Dinas Sheffield.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Mae ei rannau arall yn cynnwys Justyn ar gyfres Channel 4 No Angels a Thomas Milligan ym mhennod "Last of the Time Lords" o gyfres Doctor Who ar BBC One. Yng Ngorffennaf ac Awst 2009, serennodd Ellis yng nghomedi drama ITV Monday Monday gyda Fay Ripley. Yn 2013 fe'i castiwyd fel Victor Frankenstein yn y gyfres peilot Gothica ar sianel ABC yn America - drama goruwchnaturiol fodern.[3][4][5] Ellis oedd seren y gyfres rhwydwaith Americanaidd Rush, yn chwarae meddyg Hollywood. Yn Chwefror 2015, cyhoeddwyd fod Ellis wedi'i gastio fel Lucifer Morningstar yn y ddrama Lucifer (Fox Television), wedi eu seilio ar y comic o'r un enw, a cychwynnodd y gyfres ar 25 Ionawr 2016.[6]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd Ellis yn briod i'r actores Tamzin Outhwaite rhwng 2006 a 2014. Ar 25 Mehefin 2008 ganwyd eu merch cyntaf, Florence Elsie. Mae ganddo ferch arall, Nora, o berthynas blaenorol. Ar 20 Rhagfyr 2008, ymddangosodd y cwpl ar sioe ITV All Star Mr & Mrs. Ar 19 Mawrth 2012 cyhoeddoedd Ellis ar ei gyfrif Twitter fod Outhwaite yn feichiog gyda'i ail ferch, Marnie Mae, a anwyd ar 2 Awst 2012. Ar 29 Awst 2013 cyhoedodd Ellis a Outhwaite eu bod wedi gwahanu. Dywedodd llefarydd ar ei rhan bod y cwpl wedi gwahanu a'r mis canlynol, gwnaeth Outhwaite gais am ysgariad gan gyfeirio at anffyddlondeb Ellis fel sail.[7][8][9]
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
2001 | The Life and Adventures of Nicholas Nickleby | John Browdie | |
2001–02 | Nice Guy Eddie | Frank Bennett | |
2001 | High Heels and Low Lifes | Police Officer | |
Buffalo Soldiers | Squash | ||
2003 | Pollyanna | Timothy | |
I'll Be There | Ivor | ||
2004 | Messiah III: The Promise | Dr. Phillip Ryder | |
Vera Drake | Heddwas | ||
2005 | Much Ado About Nothing | Claude | |
Midsomer Murders | Lee Smeeton | Pennod: "Midsomer Rhapsody" | |
Waking the Dead | Harry Taylor | Pennod: "Straw Dog" | |
2005–06 | No Angels | Justyn | |
2006 | EastEnders | Dr. Oliver Cousins | |
The Catherine Tate Show | Detective Sergeant Sam Speed | ||
2007 | Suburban Shootout | P.C. Haines | |
Doctor Who | Tom Milligan | ||
The Catherine Tate Christmas Show | Detective Sergeant Sam Speed | ||
2008 | Trial & Retribution | Nick Fisher | |
Miss Conception | Zak | ||
The Passion | Apostle Philip/Philip | ||
2009 | Monday Monday | Steven | |
2009–15 | Miranda | Gary Preston | |
2010 | Dappers | Marco | |
Merlin | King Cenred | ||
Accused | Neil | ||
2011 | The Fades | Mark Etches | |
Sugartown | Max Burr | ||
2012 | Gates | Mark Pearson | |
The Secret of Crickley Hall | Gabe Caleigh | ||
2013 | Once Upon a Time | Robin Hood | Pennod: "Lacey" |
2014 | Rush | Dr. William Rush | Prif rhan |
2015 | The Strain | Rob Bradley | |
2016–2021 | Lucifer | Lucifer Morningstar | Prif rhan |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Famous family trees: Tom Ellis". findmypast.co.uk. 23 Ionawr 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-27. Cyrchwyd 2016-06-08.
- ↑ "BBC Website on Miranda".
- ↑ Miranda's Tom Ellis to play Frankenstein in US pilot Gothica Radio Times. 22 Chwefror 2013.
- ↑ Hibberd, James (22 Chwefror 2013). "Hollywood Insider: What's Going on Behind the Scenes: TV's Pilot Season Goes (Very) High-Concept". Entertainment Weekly (New York: Time Inc.): 26. http://www.ew.com/ew/article/0,,20313460_20675336,00.html. Adalwyd 2016-06-08.
- ↑ "Tom Ellis, The Fades, Pulling, and Miranda, Gothica (TV 2013)". Dread Central. Cyrchwyd 18 Mawrth 2013.
- ↑ "Lucifer – Tom Ellis Gets His Horns". Dread Central. Cyrchwyd 18 Mawrth 2013.
- ↑ Kelby McNally. "Tamzin Outhwaite 'files for divorce from Tom Ellis, citing adultery'", Express, 10 September 2013.
- ↑ (No author.) "Tamzin Outhwaite 'Divorcing' Tom Ellis After He Reportedly Admits Cheating With One-Night Stand", Huffington Post UK, 9 Hydref 2013.
- ↑ Kelby McNally. "'We're all moving forward' Tom Ellis speaks out about Tamzin Outhwaite split", Express, 19 Medi2013.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Tom Ellis ar wefan Internet Movie Database